Cym | Eng

Newyddion

Taflen wybodaeth: Chwarae yn y 1000 diwrnod cyntaf

Date

25.02.2026

Category

Newyddion

Archwiliwch

Taflen wybodaeth newydd Chwarae Cymru sy’n archwilio pwysigrwydd chwarae yn ystod y 1000 o ddiwrnodau cyntaf – y cyfnod yn ystod beichiogrwydd a hyd at ail ben-blwydd y plentyn. Mae’r 1000 o ddiwrnodau cyntaf yn cynnig potensial mawr ar gyfer sicrhau effaith cadarnhaol a pharhaol. Chwarae yw’r sail i ddatblygiad plant yn ystod y cyfnod hwn.

Yn ogystal â chynnig mwynhad diymdroi i fabanod, plant bach a phlant ifanc, mae chwarae’n agwedd hanfodol o ddatblygiad plentyn. Trwy chwarae, bydd plant yn dysgu, yn archwilio ac yn gwneud synnwyr o’r byd o’u hamgylch.

Wedi ei chymeradwyo gan Blynyddoedd Cynnar Cymru, mae Chwarae yn y 1000 diwrnod cyntaf yn cynnwys gwybodaeth am:

  • bwysigrwydd chwarae ar gyfer iechyd a lles uniongyrchol a hirdymor
  • pwêr chwarae ar gyfer babanod, plant bach a phlant ifanc
  • rôl oedolion
  • cymorth i ofalwyr
  • chwarae a’r systemau synhwyraidd
  • rôl gweithwyr proffesiynol wrth hyrwyddo chwarae.

Mae hefyd yn cynnwys adran gyda gwybodaeth i rieni am chwarae yn y 1000 o ddiwrnodau cyntaf a syniadau ar gyfer chwarae gyda babanod a phlant bach ar wahanol oedrannau.

Anelir y daflen wybodaeth at y rheini sy’n gweithio gyda babanod, plant bach a phlant ifanc a’u rhieni a gofalwyr. Bydd hefyd yn ddefnyddiol i unryw un sydd â diddordeb mewn, neu gyfrifoldeb am, chwarae plant a’r blynyddoedd cynnar.

Lawrlwytho’r daflen wybodaeth

Generic selectors
Exact matches only
Search in title
Search in content
Post Type Selectors