Cym | Eng

News

Ymchwiliad y Senedd yn canfod bod plant Cymru yn cael eu hamddifadu o addysg a gofal plant cynhwysol

Date

16.07.2024

Category

News

Archwiliwch

Mae ymchwiliad gan Bwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Senedd wedi canfod bod plant a phobl ifanc anabl a’r rhai ag anghenion dysgu ychwanegol yn cael trafferth cael mynediad i addysg a gofal plant yng Nghymru.

Mae adroddiad yr ymchwiliad yn tynnu sylw at y ffaith bod llawer o deuluoedd yn cael anhawster i gael mynediad at addysg gynhwysol a chyfleoedd gofal plant addas y mae gan eu plant hawl i’w derbyn. Mae hyn hefyd yn cynnwys cyfleoedd chwarae yn ystod y diwrnod ysgol, yn ogystal â chlybiau allysgol a gweithgareddau gwyliau.

Mae adroddiad yr ymchwiliad yn cyflwyno pum casgliad allweddol sy’n tanlinellu’r problemau y mae teuluoedd yn eu hwynebu, ac effaith y diffyg cyfleoedd priodol ar les plant a phobl ifanc. Mae hefyd yn gwneud 32 o argymhellion penodol i Lywodraeth Cymru fynd i’r afael â’r materion hyn.

Casglodd y pwyllgor dystiolaeth gan unigolion a sefydliadau ledled Cymru, gan gynnwys Chwarae Cymru, yn ei ymchwiliad, a gynhaliwyd rhwng mis Mai a mis Medi 2023.

Rhagor o wybodaeth

 

Generic selectors
Exact matches only
Search in title
Search in content
Post Type Selectors