Cym | Eng

Newyddion

Ffyrdd Cymru’n fwy diogel y gwanwyn hwn o’u cymharu â’r un cyfnod llynedd

Date

05.11.2024

Category

Newyddion

Archwiliwch

Mae ystadegau gwrthdrawiadau ffordd a gofnodwyd gan yr heddlu rhwng Ebrill a Mehefin 2024 yn dangos bod gwrthrawiadau ac anafusion ar ffyrdd 20mya a 30mya (gyda’i gilydd) wedi gostwng 24% ers 2023, mae Llywodraeth Cymru wedi rhannu.

Mae’r ffigurau’n cynrychioli’r nifer isaf o wrthdrawiadau ac anafiadau a gofnodwyd y tu allan i bandemig COVID-19.

Mae’r data hefyd yn dangos, yn ystod y naw mis cyntaf ers cyflwyno 20mya ym mis Medi 2023, fod nifer y gwrthdrawiadau (26%) ac anafusion (28%) ar ffyrdd 20mya a 30mya (cyfunol) wedi gostwng o fwy na chwarter.

Mae Llywodraeth Cymru wedi nodi, oherwydd bod data yn cael ei effeithio gan ffactorau tymhorol megis maint y traffig a’r tywydd, y dylid cymharu ystadegau â’r un cyfnod flwyddyn ar ôl blwyddyn yn hytrach nag ar gyfer cyfnodau olynol.

Mwy o wybodaeth

Generic selectors
Exact matches only
Search in title
Search in content
Post Type Selectors