Archwiliwch
Mae ProMo Cymru yn cynnal ymchwil ar ran Youth Cymru i werthuso tirwedd gyfathrebu’r sector gwaith ieuenctid. Drwy arolwg ar-lein, mae ProMo Cymru yn archwilio sut mae gweithwyr proffesiynol ledled Cymru yn cysylltu, rhannu a chydweithio.
Os ydych chi’n weithiwr proffesiynol gwaith ieuenctid yng Nghymru, mae ProMo Cymru eisiau clywed gennych chi. Bydd eich adborth yn helpu i nodi’r pethau sy’n effeithiol ar hyn o bryd a’r hyn sydd angen newid i gefnogi’r sector yn well.
Dyddiad cau ar gyfer ymateb i’r holiadur: 27 Chwefror 2026