Cym | Eng

Newyddion

Ymchwil: buddiannau chwarae gyda doliau

Date

15.04.2026

Category

Newyddion

Archwiliwch

Dengys astudiaeth chwe-wythnos o hyd gan Brifysgol Caerdydd bod chwarae gyda doliau yn helpu plant i ddatblygu sgiliau cymdeithasol a’r gallu i ddeall pobl eraill, yn ogystal â helpu i gyrraedd cerrig milltir allweddol wrth ddatblygu empathi. Canfuwyd bod chwarae â doliau yn fuddiol i fechgyn a merched, ac mae’n arbennig o werthfawr i’r rheini sydd â phroblemau gyda phlant eraill.

Gofynnodd yr ymchwilwyr i rieni plant rhwng pedair ac wyth oed gadw dyddiaduron chwarae, ar ôl cael naill ai dol neu lechen (â gemau wedi’u llwytho ymlaen llaw) i chwarae â hi. Cofnododd y rhieni pa mor aml a pha mor hir y bu eu plentyn yn chwarae gyda doliau a llechenni.

Canfu’r ymchwilwyr fod plant yn fwy tebygol o chwarae’n gymdeithasol a defnyddio iaith sy’n mynegi emosiynau wrth chwarae gyda doliau o’u cymharu â llechenni. Adroddodd rhieni hefyd fod plant yn fwy tebygol o chwarae gyda’u brodyr a’u chwiorydd, rhieni neu ffrindiau gyda doliau.

Dywedodd Dr Sarah Gerson, o Ysgol Seicoleg Prifysgol Caerdydd:

‘Wrth chwarae gyda doliau, mae gan blant y cyfle i chwarae rôl cymeriadau, creu naratifau ac actio cyd-destunau – mae gwneud hynny’n dibynnu ar y gallu i ddychmygu meddyliau, teimladau a bwriadau pobl eraill yn ogystal â meithrin y rhain. Mae’r senarios chwarae ffug hyn yn caniatáu i blant ymarfer sgiliau cymdeithasol, prosesu emosiynau a rheoleiddio emosiynau mewn cyd-destun diogel.’

Cyhoeddwyd yr ymchwil, Doll play improves false belief reasoning: Evidence from a randomized-control trial, yn PLOS One.

Rhagor o wybodaeth

Generic selectors
Exact matches only
Search in title
Search in content
Post Type Selectors