Archwiliwch
Ddwy flynedd ers cyflwyno’r terfyn cyflymder 20mya diofyn cenedlaethol, mae data’n dangos yr effaith gadarnhaol ar gymunedau ledled Cymru. Mae’r newid hwn yn cyfrannu at wneud cymunedau’n fwy diogel i blant ac oedolion fyw a mwynhau gweithgareddau fel chwarae, cerdded a beicio.
Mae ffigurau gan Lywodraeth Cymru yn datgelu bod gostyngiad o 25% mewn anafiadau, gan gynnwys marwolaethau, ar ffyrdd cyflymder isel yn y 18 mis diweddaraf, o gymharu â rhwng Ebrill 2022 a Medi 2023. Dengys data StatsCymru, a gyhoeddwyd ym mis Awst 2025, bod nifer yr anafiadau wedi gostwng o 3,520 i 2,638, sy’n golygu bod 882 yn llai o bobl wedi cael eu hanafu ar ffyrdd ar draws Cymru.
Dywedodd Adrian Berendt, Cyfarwyddwr 20’s Plenty for Us, y sefydliad sy’n ymgyrchu i leihau cyflymder y ffyrdd:
‘Rydym yn llongyfarch gwleidyddion, cynrychiolwyr awdurdodau lleol ac arweinwyr cymunedol a alwodd am a gweithredu 20mya fel norm trefol/pentrefol … Diolchwn i yrwyr Cymreig sydd wedi newid eu hymddygiad i wneud eu cymunedau yn lleoedd gwell fyth i fod ynddynt.’