Cym | Eng

Newyddion

Recriwtio: adolygiad NOS Gwaith Chwarae’r DU

Date

02.07.2024

Category

Newyddion

Archwiliwch

Mae Consortiwm NOS Gwaith Chwarae’r DU yn chwilio am unigolion ag ystod o sgiliau a gwybodaeth mewn gwaith chwarae, cymwysterau neu ddatblygu safonau i fod yn rhan o’r adolygiad o’r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer Gwaith Chwarae.

Mae’r consortiwm yn recriwtio aelodau gwirfoddol ar gyfer Grŵp Ysgrifennu NOS a Grwpiau Cyfeirio Arbenigol. Mae’r swyddi yn ddi-dâl felly gofynnir i ymgeiswyr ystyried yr ymrwymiad amser yn ofalus.

Mae Consortiwm Gwaith Chwarae NOS y DU yn cynnwys Chwarae Cymru, Play Scotland, PlayBoard Northern Ireland, Play England a’r Playwork Foundation. Sefydlwyd y consortiwm i gynllunio’n strategol ar gyfer dyfodol mentrau datblygu’r gweithlu a mentrau sgiliau sector ar draws y pedair gwlad, gan gynnwys yr adolygiad hwn o’r NOS.

I gael gwybod mwy am y broses adolygu NOS gwaith chwarae, gweler Taflen wybodaeth #1.

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau yw 31 Gorffennaf 2024.

Os oes gennych ddiddordeb mewn bod yn rhan o un o’r grwpiau, anfonwch e-bost atom yn esbonio sut yr ydych yn bodloni’r gofynion o ran y priodoleddau, y sgiliau a’r wybodaeth a restrir yn y fanyleb person isod, ynghyd â CV.

Manyleb Person ar gyfer aelodau o Grŵp Ysgrifennu NOS

Manyleb Person ar gyfer aelodau o Grŵp Cyfeirio Annibynnol NOS

Generic selectors
Exact matches only
Search in title
Search in content
Post Type Selectors