Cysylltwch â ni
Cym | Eng

Newyddion

Cyhoeddi thema Diwrnod Chwarae 2024

Date

03.05.2024

Category

Newyddion

Archwiliwch

Diwrnod Chwarae yw’r diwrnod cenedlaethol ar gyfer chwarae, a ddethlir bob blwyddyn ar draws y DU ar ddydd Mercher cyntaf mis Awst. Dethlir Diwrnod Chwarae 2024 ar ddydd Mercher 7 Awst.

Mae’n bleser gennym gyhoeddi mai thema Diwrnod Chwarae eleni yw …

Chwarae – diwylliant plentyndod
Cefnogi chwarae, hwyl a chyfeillgarwch

Mae’r thema eleni’n dathlu diwylliant cyfoethog a bywiog chwarae plant. Mae pob plentyn yn chwarae – mae chwarëusrwydd yn nodwedd benodol o ymddygiad ar draws y cenedlaethau a diwylliannau. Mae chwarae’n cynhyrchu diwylliant plentyndod. Mae chwarae’n hanfodol ar gyfer iechyd, hapusrwydd, a chreadigedd plant. Trwy chwarae:

  • mae plant yn datblygu ymdeimlad o, ac yn gwerthfawrogi diwylliant
  • mae archwilio diwylliannol yn cael ei annog, gan feithrin gwerthfawrogiad am amrywiaeth
  • mae plant yn gweithio gyda’i gilydd, yn negydu, ac yn creu perthnasau
  • mae plant yn teimlo’n gysylltiedig i’w gilydd a’u cymdogaethau
  • mae plant yn creu ac yn pasio gemau, caneuon a straeon ymlaen.

Mae chwarae’n hawl i bob plentyn – ar Ddiwrnod Chwarae a bob dydd.

Y Diwrnod Chwarae hwn, rydym yn galw ar bawb – yn deuluoedd, gweithwyr chwarae, a phawb sy’n gweithio gyda phlant ar hyd a lled y DU, i ymuno gyda’i gilydd i feithrin diwylliant o gefnogi chwarae.

Rhagor o wybodaeth

Generic selectors
Exact matches only
Search in title
Search in content
Post Type Selectors