Cym | Eng

Newyddion

Cyhoeddiadau Chwarae Cymru 2024

Date

07.01.2025

Category

Newyddion

Archwiliwch

 

Yn ystod 2024 fe wnaethom gynhyrchu a dosbarthu amrywiaeth o gyhoeddiadau newydd a rhai wedi eu diweddaru i gefnogi a hysbysu’r rheiny sydd â diddordeb mewn, neu gyfrifoldeb am chwarae plant. Dyma grynodeb o’r cyhoeddiadau – maent i gyd ar gael i’w lawrlwytho am ddim.

Edrychwn ymlaen at rannu mwy o adnoddau newydd gyda chi drwy gydol 2025.

 

Cylchgrawn Chwarae dros Gymru

Chwarae dros Gymru – Chwarae a lles: cip arall
Rhifyn 62 (Hydref | Gaeaf 2023)

Mae’r rhifyn hwn o’r cylchgrawn yn cymryd cip arall ar chwarae a lles. Dengys yr erthyglau sut y gall amser, lle a rhyddid i chwarae fod o fudd mawr i iechyd meddwl plant, gan liniaru straen a lleihau effaith niweidiol trawma.

 

Chwarae dros Gymru – Chwarae yn y blynyddoedd cynnar
Rhifyn 63 (Gwanwyn | Haf 2024)

Mae’r rhifyn hwn o’r cylchgrawn yn archwilio’r thema chwarae yn y blynyddoedd cynnar. Mae’n amlygu sut y gall rhyngweithiadau, profiadau ac amgylcheddau cynnar osod y sylfeini i blant wneud y gorau o gyfleoedd chwarae wrth iddyn nhw dyfu a datblygu.

 

Ymchwil

Chwarae a lles – Adolygiad llenyddiaeth

Mae’r adolygiad llenyddiaeth hwn yn canolbwyntio ar bwysigrwydd chwarae plant a lles. Wedi ei gynnal gan Dr Wendy Russell, gyda Mike Barclay a Ben Tawil o Ludicology, mae’n adolygiad o ymchwil diweddar i chwarae plant, polisi cymdeithasol ac ymarfer, gyda ffocws ar Gymru.

 

Chwarae a lles – Crynodeb

Mae hwn yn grynodeb o Chwarae a lles. Mae’n cynnwys gwybodaeth am gwmpas ac arddull yr adolygiad llenyddiaeth, a throsolwg a darganfyddiadau o bob un o’r penodau. Mae hefyd yn cyflwyno cynnig yr awduron am ddull galluogrwydd perthynol tuag at les plant drwy gamau gweithredu i greu amodau sy’n cefnogi chwarae.

Taflenni gwybodaeth

Y Ddyletswydd Digonolrwydd Cyfleoedd Chwarae a rôl gweithwyr chwarae

Mae’r daflen wybodaeth hon, a ysgrifennwyd gan Ben Tawil a Mike Barclay, yn cynnig cyflwyniad i Ddyletswydd Digonolrwydd Cyfleoedd Chwarae Llywodraeth Cymru. Mae hefyd yn archwilio rolau’r proffesiwn gwaith chwarae wrth helpu i sicrhau y rhoddir cyfleoedd digonol i blant chwarae.

 

Gwaith chwarae – beth sy’n ei wneud mor arbennig?

Mae’r daflen wybodaeth hon yn rhoi trosolwg o’r hyn sy’n unigryw am waith chwarae a rôl y gweithiwr chwarae. Mae’n disgrifio sut mae gwaith gweithwyr chwarae yn hwyluso chwarae plant. Mae hefyd yn egluro sut mae gwaith chwarae yn cysylltu â’r Egwyddorion Gwaith Chwarae.

 

Amddifadedd chwarae: yr achosion a’r canlyniadau ar gyfer datblygiad plant, a photensial gwaith chwarae

Mae’r daflen wybodaeth hon, a ysgrifennwyd gan yr Athro Emeritws Fraser Brown, yn trafod amddifadedd chwarae a photensial gwaith chwarae i oresgyn y canlyniadau. Mae’n archwilio ymchwil ar y cysylltiadau rhwng dirywiad mewn cyfleoedd plant i chwarae a materion iechyd meddwl a chymdeithasol cynyddol.

 

Adolygiad 2024/24 o’r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer Gwaith Chwarae – Taflen wybodaeth #1

Mae’r daflen wybodaeth hon gan Consortiwm NOS Gwaith Chwarae’r DU wedi’i datblygu i gyflwyno’r adolygiad o’r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol (NOS) ar gyfer gwaith chwarae, a gynhelir yn ystod 2024 a 2025. Ei nod yw hysbysu’r sector gwaith chwarae am NOS a chamau’r broses adolygu.

 

Adolygiad 2024/24 o’r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer Gwaith Chwarae – Taflen wybodaeth #2

Mae’r ail daflen wybodaeth gan Gonsortiwm NOS Gwaith Chwarae’r DU yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd yr adolygiad Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ar gyfer Gwaith Chwarae (NOS) dros haf 2024.

 

Astudiaethau achos

Enghreifftiau o ddigonolrwydd cyfleoedd chwarae

Mae’r wyth enghraifft hyn o gamau a gymerwyd yn lleol i gefnogi chwarae plant fel rhan o waith digonolrwydd chwarae wedi cael eu datblygu gydag awdurdodau lleol a’u partneriaid. Mae pob enghraifft yn anelu i ddangos y cyd-destun unigryw, y prosesau a’r bobl fu’n rhan o’r prosiect. Efallai y byddant yn cynnig syniadau y gellir eu haddasu ar gyfer y bobl hynny sy’n gweithio i gefnogi chwarae plant.

 

Canllaw

Ysgol chwarae-gyfeillgar – Canllaw ar gyfer agwedd ysgol gyfan

Mae’r canllaw hwn yn darparu gwybodaeth ar bolisi ac ymarfer i helpu cymunedau ysgolion fabwysiadu agwedd ysgol gyfan i gefnogi hawl plant i chwarae. Mae wedi ei ddatblygu er mwyn ymateb i adroddiad Estyn Iach a hapus – Effaith yr ysgol ar iechyd a llesiant disgyblion, sy’n nodi pwysigrwydd amserau chwarae ac egwyl mewn ysgolion.

Gweithdy

Gweithdy hawl i chwarae

Mae’r gweithdy hwn yn anelu i gynyddu ymwybyddiaeth am yr hawl i chwarae a galluogi plant ac arddegwyr i eiriol dros gyfleoedd gwell i chwarae a chwrdd â’u ffrindiau. Mae hefyd yn cysylltu â Chwricwlwm i Gymru a Fframwaith Arolygu Cyffredin Estyn. Mae’n cynnwys amrywiaeth o adnoddau, megis cynllun sesiwn gweithdy a syniadau ar gyfer datblygu’r cwricwlwm.

 

Rhestr ddarllen

Rhestr ddarllen ar gyfer athrawon – Cefnogi chwarae plant mewn ysgolion

Rydym wedi rhoi’r rhestr o adnoddau argymelledig hon at ei gilydd ar gyfer meddwl am chwarae yn yr ysgol. Mae’r rhestr ddarllen yn fan cychwyn ar gyfer myfyrio a Datblygiad Proffesiynol Parhaus ar gyfer y rheini sydd â diddordeb gwella cyfleoedd plant i chwarae yn yr ysgol.

Papurau briffio

Ffocws ar chwarae – Chwarae a chynghorwyr sir

Mae’r rhifyn hwn o Ffocws ar chwarae ar gyfer cynghorwyr sir ledled Cymru yn cynnwys gwybodaeth am ddyletswyddau statudol ar awdurdodau lleol i asesu a sicrhau cyfleoedd chwarae digonol ar gyfer plant yn eu hardal.

 

Ffocws ar chwarae – Sut mae chwarae’n cefnogi iechyd meddwl plant

Mae’r rhifyn hwn o Ffocws ar chwarae yn darparu gwybodaeth ar gyfer Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol a Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus. Mae’n ystyried rôl allweddol chwarae plant wrth hybu lles ac iechyd meddwl cadarnhaol ac mae’n trafod ffyrdd y gall cynlluniau lleol a rhanbarthol gefnogi chwarae.

Adnodd Plentyndod Chwareus i deuluoedd

Teithiau cerdded chwareus

Detholiad o deithiau cerdded ar themâu penodol i helpu teuluoedd i fynd allan i archwilio eu hardal leol. Mae’r teithiau cerdded hyn wedi cael eu haddasu o enghreifftiau gan Dîm Cymorth Chwarae ac Ieuenctid Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Generic selectors
Exact matches only
Search in title
Search in content
Post Type Selectors