Cym | Eng

Newyddion

Her Chwarae 31 ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol Chwarae

Date

23.04.2026

Category

Newyddion

Archwiliwch

Mae’r UK Children’s Play Policy Forum, mewn cydweithrediad â phum cangen yr IPA yn y DU ac Iwerddon, wedi lansio eu galwad i weithredu ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol Chwarae. Mae’r Her Chwarae 31 yn alwad i bob ysgol ledled y DU ac Iwerddon i roi 31 munud yn fwy i chwarae ar 11 Mehefin.

Mae’r Cenhedloedd Unedig wedi clustnodi 11 Mehefin fel Diwrnod Rhyngwladol Chwarae, gan gydnabod bod grym chwarae wrth galon plentyndod iach a hapus. Wedi ei ysbrydoli gan Erthygl 31 o Gonfensiwn y CU ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP), sy’n datgan bod gan bob plentyn hawl i chwarae, anogir ysgolion i ganiatáu 31 munud ychwanegol ar gyfer chwarae yn ystod y diwrnod ysgol.

Thema’r ymgyrch eleni yw Gwarchod chwarae, gwarchod plentyndod. Trwy ymestyn amserau egwyl a chefnogi dysgu chwareus yn yr awyr agored, gall ysgolion ddangos eu cefnogaeth i rym chwarae, a’u parch tuag at hawl plant i chwarae.

Mae hon yn alwad i weithredu gan yr UK Children’s Play Policy Forum, mewn cydweithrediad gyda phump cangen yr International Play Association (IPA) yn y DU ac Iwerddon: IPA Cymru Wales, IPA England, IPA Ireland, IPA Northern Ireland, ac IPA Scotland. Mae Chwarae Cymru yn aelod o’r UK Children’s Play Policy Forum.

Meddai Mike Greenaway, Cyfarwyddwr Chwarae Cymru:

‘’Dyw chwarae plant erioed wedi bod cyn bwysiced ag y mae heddiw. Mae’r Diwrnod Chwarae Rhyngwladol yn rhoi cyfle inni ddathlu chwarae ar draws y byd. Yma yng Nghymru fe fydd yn ddiwrnod ysgol, a bydd yn rhoi cyfle inni bwysleisio pwysigrwydd chwarae plant i’w mwynhad o ddysgu.’

Dywedodd Marianne Mannello, ysgrifennydd Cangen IPA Cymru Wales:

‘Gan fod Diwrnod Chwarae Rhyngwladol yn syrthio ar ddiwrnod ysgol eleni, mae aelodau IPA Cymru Wales yn teimlo ei fod yn gyfle perffaith i ysgolion warchod amser chwarae. Ein gobaith yw y bydd Her Chwarae 31 yn ysbrydoli ysgolion i feddwl sut ellir cynnwys mwy o amser i chwarae ym mhob diwrnod ysgol. Mae ein haelodau’n gwybod bod amser egwyl ac amser chwarae yn bwysig i blant trwy gydol y flwyddyn. Rydym yn galw ar i sefydliadau roi mwy o gyfleoedd i blant chwarae – nid dim ond ar y Diwrnod Chwarae Rhyngwladol, ond bob dydd o’r flwyddyn.’

Lawrlwytho poster Her Chwarae 31

Rhagor o wybodaeth

Generic selectors
Exact matches only
Search in title
Search in content
Post Type Selectors