Cym | Eng

Newyddion

Adroddiad blynyddol 2025-2026 PETC Cymru

Date

07.08.2026

Category

Newyddion

Archwiliwch

Mae adroddiad blynyddol newydd Cyngor Addysg a Hyfforddiant Gwaith Chwarae Cymru (PETC Cymru – Gwaith Chwarae Cymru) yn tynnu sylw at y cyflawniadau a’r pwyntiau trafod allweddol rhwng mis Mehefin 2025 a mis Mawrth 2026. Yn ogystal â chynnig diweddariad ar ddatblygu’r cyfeiriad strategol, mae hefyd yn cynnwys uchafbwyntiau gan aelodau’r cyngor a chynlluniau ar gyfer y dyfodol.

Mae’r adroddiad blynyddol yn anelu i gefnogi y sector i ddeall rôl PETC Cymru (Gwaith Chwarae Cymru). Mae’n grŵp sy’n trafod materion o bwys strategol i bob agwedd ar addysg, hyfforddiant a chymwysterau gwaith chwarae yng Nghymru. Mae’r grŵp hefyd yn gwneud argymhellion i PETC UK.

Mae Chwarae Cymru’n cefnogi rhedeg PETC Cymru (Gwaith Chwarae Cymru).

Lawrlwytho adroddiad blynyddol 2025-2026

 

Generic selectors
Exact matches only
Search in title
Search in content
Post Type Selectors