Cym | Eng

Newyddion

Fframwaith statudol newydd ar gyfer gwaith ieuenctid

Date

08.04.2026

Category

Newyddion

Archwiliwch

Mae Llywodraeth Cymru wedi lansio fframwaith statudol newydd ar gyfer gwaith chwarae, sy’n cynnwys Cyfarwyddydau Gwasanaeth Cymorth Ieuenctid (Darparu Gwaith Ieuenctid) (Cymru) 2026 a chanllawiau statudol Gwaith ieuenctid yng Nghymru: cyflawni dros bobl ifanc.

Mae’r fframwaith yn sefydlu trefniadau cynllunio ac atebolrwydd clir, yn ogystal â nodi ein disgwyliadau i awdurdodau lleol i asesu anghenion pobl ifanc, blaenoriaethu’r anghenion hynny a gosod amcanion i gefnogi a datblygu gwaith ieuenctid. Mae cydweithio – rhwng sefydliadau sy’n llunio a chyflawni gwaith ieuenctid, yn ogystal â phobl ifanc eu hunain – yn ganolog i’r fframwaith.

Wrth gyhoeddi’r fframwaith, mewn datganiad ysgrifenedig dywedodd Lynne Neagle AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg:

‘Mae gan bobl ifanc rôl hanfodol i’w chwarae wrth wireddu’r fframwaith hwn. Mae’r fframwaith yn pwysleisio bod rhaid i’w barn lunio’r cynlluniau strategol gwaith ieuenctid y bydd yn ofynnol i bob awdurdod lleol, ar y cyd â phartneriaid, eu datblygu … Bydd y fframwaith hwn, ochr yn ochr â’n gwaith i ddatblygu corff cenedlaethol ar gyfer gwaith ieuenctid, yn helpu i hyrwyddo gwaith ieuenctid, gan sicrhau ei fod yn cael ei werthfawrogi a’i ddeall a’i fod yn parhau i ymateb i anghenion pobl ifanc.’

Dywed Chwarae Cymru:

‘Rydym yn croesawu cyhoeddi’r canllawiau statudol hyn. Yn benodol, hoffem dynnu sylw at y cysylltiadau sy’n cael eu gwneud rhwng y cynlluniau strategol gwaith ieuenctid a’r Asesiadau Digonolrwydd Chwarae. Rydym hefyd yn croesawu’n fawr y gydnabyddiaeth o’r aliniad rhwng gwaith chwarae a gwaith ieuenctid sy’n nodi: “Pan fyddant wedi’u halinio, gall y ddau sector hyn wella effaith ei gilydd a gwella profiadau a deilliannau. Gall arwain at ddatblygu perthnasoedd o ymddiriedaeth tymor hwy gydag unigolion wrth iddynt bontio rhwng plentyndod, llencyndod a byd oedolion ifanc.”’

Rhagor o wybodaeth

Generic selectors
Exact matches only
Search in title
Search in content
Post Type Selectors