Cym | Eng

Newyddion

Adroddiad newydd Cyflwr Chwarae 2025

Date

29.01.2026

Category

Newyddion

Archwiliwch

Yn ein hadroddiad newydd – Cyflwr Chwarae 2025 – rydym yn cyflwyno dadansoddiad o Asesiadau Digonolrwydd Chwarae (ADCh) a Chynlluniau Gweithredu Chwarae awdurdodau lleol a gyflwynwyd i Lywodraeth Cymru ym mis Mehefin 2025. Yn ogystal ag adolygu pob un o’r 22 Asesiad Digonolrwydd Chwarae a Chynllun Gweithredu, mae’r dadansoddiad hwn wedi ei gefnogi gan drafodaethau, cefnogaeth trwy weithdai ac ymgysylltu gyda swyddogion arweiniol digonolrwydd chwarae ar draws y mwyafrif o awdurdodau lleol.

Mae Cyflwr Chwarae 2025 yn cynnig trosolwg o’r:

  • cefndir polisi
  • negeseuon allweddol a’r prif themâu sy’n deillio o Asesiadau Digonolrwydd Chwarae 2025
  • argymhellion ar gyfer y dyfodol.

Mae’r adroddiad yn cynnwys gwybodaeth benodol ar agweddau penodol o’r Asesiadau Digonolrwydd Chwarae:

  • cysylltiadau â Chynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol
  • cynnwys plant anabl a phlant ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY)
  • chwarae mewn addysg ac ysgolion • cynllunio cymdogaeth.

Cyflwr Chwarae 2025 yw’r degfed adolygiad cenedlaethol i Chwarae Cymru ei gwblhau. Mae’n ehangu ar yr adroddiad Cyflwr Chwarae a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru yn 2000, ac a ddiweddarwyd gan Chwarae Cymru wedi hynny yn 2003, 2006, 2009 a 2011. Ers cychwyn y Ddyletswydd Digonolrwydd Cyfleoedd Chwarae, mae Chwarae Cymru wedi adolygu’r Asesiadau Digonolrwydd Chwarae a gyflwynwyd yn 2013, 2016, 2019 a 2022. Rydym hefyd wedi adolygu amrywiol Adroddiadau Cynnydd yn ystod y blynyddoedd rhwng y rhain.

Wrth lansio’r adroddiad Cyflwr Chwarae diweddaraf, dywed Chwarae Cymru:

‘Rydym yn gwerthfawrogi’r gwaith helaeth ar ddigonolrwydd chwarae a wneir gan awdurdodau lleol yng Nghymru. Mae ein dadansoddiad o’r Asesiadau Digonolrwydd Chwarae a’r dogfennau cysylltiedig yn dangos bod y Ddyletswydd Digonolrwydd Cyfleoedd Chwarae yn parhau i weithredu fel sbardun cenedlaethol ar gyfer cynllunio darpariaeth chwarae’n lleol.

Mae adolygiad 2025 yn nodi bod tystiolaeth mewn llawer o ardaloedd o fanteision gweithio trawsadrannol i gyfrannu at sicrhau digonolrwydd chwarae. Er gwaethaf heriau’r blynyddoedd diwethaf, mae pob Asesiad Digonolrwydd Chwarae yn dangos ymrwymiad i sicrhau newid cadarnhaol i blant a’u mynediad at gyfleoedd i chwarae.’

Rhagor o wybodaeth

Generic selectors
Exact matches only
Search in title
Search in content
Post Type Selectors