Archwiliwch
Mae Plant yng Nghymru wedi lansio adduned newydd ar gyfer babanod gyda’r nod o gefnogi eu hawliau a’u hanghenion unigryw.
Cafodd Dyma fi! – Adduned ar gyfer babanod yng Nghymru ei ddatblygu i amlygu safbwynt y baban, gan ganolbwyntio ar 1000 diwrnod cyntaf eu bywydau.
Wedi ei lywio gan Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP), mae’r adduned yn galw ar unigolion a mudiadau sy’n ymwneud â bywydau babanod i ymrwymo i gydnabod eu hanghenion penodol mewn penderfyniadau sy’n effeithio arnynt.
Cyhoeddwyd yr adduned yng nghynhadledd Rhwydwaith Hawliau Plant yn y Blynyddoedd Cynnar (CREYN), yn dilyn prosiect cydweithredol rhwng Plant yng Nghymru a Phrifysgol Abertawe. Fe’i chydgynhyrchwyd gyda mewnbwn gan rieni, gofalwyr a’u babanod, gweithwyr proffesiynol ac aelodau rhwydwaith CREYN – gan gynnwys Chwarae Cymru.
Dywed Chwarae Cymru:
‘Fel aelod o Rwydwaith Hawliau Plant yn y Blynyddoedd Cynnar, mae Chwarae Cymru yn croesawu cyhoeddiad “Dyma Fi – adduned i fabanod yng Nghymru”. Mae chwarae, dysgu a lles yn anwahanadwy yn ystod y 1000 diwrnod cyntaf. O’r dyddiau cynharaf hynny, gellir cryfhau datblygiad a hapusrwydd plant trwy gael mynediad at ddigon o gyfleoedd i chwarae, gyda chefnogaeth oedolion a gofalwyr chwareus.’