Cym | Eng

Newyddion

Cylchgrawn newydd: ‘Y Gymru yr ydw i am dyfu i fyny a chwarae ynddi’

Date

05.05.2026

Category

Newyddion

Archwiliwch

Mae rhifyn newydd cylchgrawn Chwarae dros Gymru yn edrych ymlaen at llywodraeth nesaf Cymru, yn ogystal â dathlu’r gwaith da sy’n digwydd ar lefel leol, rhanbarthol a chenedlaethol. Mae ein cais yn glir a phwysig: i’r Llywodraeth barhau â’i hymrwymiad arloesol byd-eang sy’n blaenoriaethu chwarae.

Mae’r neges gan blant ynghylch pam fod chwarae mor bwysig iddyn nhw yn un groch, clir a chryno hefyd. Maen nhw eisiau amser, lle a derbyniad oedolion i brofi enydau o chwarae bob dydd. Felly, mae’r rhifyn hwn yn cynnwys maniffesto chwarae gan blant Cymru gyda’i galwadau nhw i sicrhau bod gan bob plentyn ar draws y wlad ddigon o amser a mannau da i chwarae.

Mae’r rhifyn ‘Y Gymru yr ydw i am dyfu i fyny a chwarae ynddi’ yn cynnwys erthyglau gydag enghreifftiau o waith sy’n digwydd ar hyd a lled Cymru ar y pedair thema yn ein maniffesto:

  • Arweinyddiaeth strategol: crynodeb o sut y mae amryw o feysydd polisi a rhaglenni y llywodraeth yn anelu i gefnogi chwarae, sy’n arddangos ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gefnogi chwarae plant
  • Cymdogaethau chwareus: dwy esiampl ysbrydoledig – o Ferthyr Tudful a Chasnewydd – o brosiectau sy’n cefnogi darpariaeth chwarae wedi ei leoli yn y gymuned
  • Ysgolion chwareus: trosolwg o brosiect Chwarae’r Tu Allan a Lles Tîm Chwarae Bro Morgannwg, wedi ei ddilyn gan syniadau o bethau i’w hystyried i gefnogi ymddygiad amser chwarae yn yr ysgol
  • Chwarae’n ystod adegau o ansicrwydd: esiamplau o brosiectau sy’n digwydd mewn llety dros dro a lleoliadau gofal iechyd i gefnogi cyfleoedd plant i chwarae yn y lleoliadau hyn.

Mae’r rhifyn hwn hefyd yn cynnwys cyfweliad dan y chwyddwydr, popeth yr ydych angen ei wybod am Chwarae o Safon – ein marc ansawdd gwaith chwarae sydd newydd ei lansio, a’r diweddaraf am adolygiad y DU ar y Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol (NOS) ar gyfer gwaith chwarae.

Lawrlwytho cylchgrawn Chwarae dros Gymru

Generic selectors
Exact matches only
Search in title
Search in content
Post Type Selectors