Archwiliwch
Mewn ymateb i Ganllawiau newydd Llywodraeth Cymru ar y Ddeddf Teithio Llesol, rydym wedi cyhoeddi rhifyn newydd o Ffocws ar chwarae. Mae’n ystyried sut gall teithio llesol gefnogi hawl plant i chwarae, a sut gall ffocws cryf ar chwarae helpu i greu llwybrau cerdded, olwyno a beicio sy’n gweithio’n well ar gyfer plant, teuluoedd a chymunedau.
Mae’r rhifyn hwn yn cefnogi adran chwarae ym mhennod Creu Lleoedd Canllawiau’r Ddeddf Teithio Llesol, sy’n annog agwedd ‘Chwarae ar y Ffordd’. Mae ‘Chwarae ar y Ffordd’ yn agwedd sy’n eiriol dros integreiddio chwarae fel rhan o, ac o amgylch, llwybrau cerdded, olwyno a beicio.
Pan fydd canllawiau teithio llesol yn cael eu gweithredu gan ystyried chwarae plant, gall helpu i greu cymdogaethau ble mae plant yn weladwy, yn teimlo bod croeso iddynt a’u bod yn gallu mwynhau cyfleoedd bob dydd i chwarae. Mae Ffocws ar chwarae – Chwarae a theithio llesol yn cynnwys gwybodaeth am:
- pam fod chwarae a theithio llesol yn perthyn gyda’i gilydd
- polisi chwarae rhyngwladol a chenedlaethol
- yr hyn fydd plant yn ei elwa oddi wrth agwedd ‘Chwarae ar y Ffordd’ a beth fydd yn tarfu ar hyn
- ystyriaethau ar gyfer creu teithio llesol cyfeillgar at blant
- egwyddorion ar gyfer creu teithio llesol sy’n gyfeillgar at chwarae
- strydoedd chwarae: creu lle ar riniog y drws
- canolbwyntio ar y daith.
Mae’r papur briffio hwn ar gyfer timau trafnidiaeth, cynllunio, priffyrdd, iechyd y cyhoedd a chwarae awdurdodau lleol, yn ogystal ag aelodau etholedig.