Cym | Eng

Newyddion

Canllaw newydd ar gyfer creu mannau cyhoeddus trefol i blant

Date

23.01.2026

Category

Newyddion

Archwiliwch

Mae canllaw newydd, a ddatblygwyd gan WHO, UNICEF ac UN-Habitat, yn amlygu pwysigrwydd mannau cyhoeddus ar gyfer gwella iechyd a lles plant, a gwireddu eu hawliau – gan gynnwys yr hawl i chwarae.

Mae’r Guide to creating urban public SPACES for children yn rhoi cymorth i ymarferwyr ddatblygu a gwella mannau cyhoeddus ar gyfer plant mewn cyd-destunau trefol cynlluniedig, cyd-destunau anffurfiol yn ogystal ag mewn sefyllfaoedd o argyfwng ac adeiladu gwytnwch. Mae hefyd yn cynnwys 54 o enghreifftiau o arferion da o raglenni ac ymyriadau i ddarparu mannau cyhoeddus i blant.

Mae’r canllaw wedi’i anelu at unrhyw un sy’n ymwneud â chreu mannau cyhoeddus, fel llywodraethau, elusennau, cymunedau lleol, ysgolion, grwpiau rhieni a busnesau.

Yn y rhagair, dywed y tri sefydliad a ddatblygodd y canllaw:

‘Mae angen gofod cyhoeddus ar blant. Mae mannau diogel, cynhwysol i chwarae ac ymgynnull yn hanfodol i iechyd, datblygiad, dysgu a chysylltiadau cymdeithasol plant, ac maent yn hawl graidd. Ac eto mae mynediad yn crebachu: dim ond 44% o drigolion trefol sy’n byw ger mannau cyhoeddus agored – ffigwr sy’n disgyn i ddim ond 30% mewn gwledydd incwm isel a chanolig, wrth i foduro, preifateiddio a blerdwf trefol ddileu ardaloedd cyfeillgar i blant.’

Rhagor o wybodaeth

Generic selectors
Exact matches only
Search in title
Search in content
Post Type Selectors