Archwiliwch
Mae hyfforddiant Dyfarniad Lefel 2 mewn Ymarfer Gwaith Chwarae (L2APP) yn cael ei gynnig ledled Cymru trwy Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs.
Mae’r cwrs L2APP yn cynnig cyflwyniad cyffredinol i waith chwarae. Dyma’r gofyniad mynediad ar gyfer llwybr Gwaith Chwarae: Egwyddorion ar Waith (P3) ac mae rhaid ei gwblhau’n llwyddiannus cyn symud ymlaen i’r cymwysterau eraill yn y gyfres.
Fel cymhwyster annibynnol, mae’n addas hefyd ar gyfer y bobl hynny sy’n gweithio mewn cynlluniau chwarae gwyliau. Mae’n cynnwys gwybodaeth am bwysigrwydd chwarae, cynhwysiant, theori gwaith chwarae a chreu mannau i chwarae.
Rhaid i’r rheini a hoffai dderbyn yr hyfforddiant cwblhau ffurflen mynegi diddordeb ar-lein i sicrhau bod y cwrs yn cael ei redeg yn eu hardal.