Cym | Eng

News

Dweud eich dweud ar y cynigion deddfwriaethol newydd ar gyfer gwaith ieuenctid yng Nghymru

Date

08.10.2024

Category

News

Archwiliwch

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Lynne Neagle AS wedi lansio ymgynghoriad ar fframwaith statudol newydd ar gyfer gwaith ieuenctid.

Mae’r fframwaith statudol newydd, Cyfarwyddydau Gwasanaethau Cymorth Ieuenctid (Darparu Gwaith Ieuenctid) (Cymru) 2025 a chanllawiau statudol newydd ar gyfer gwaith ieuenctid, yn ymgorffori’r elfennau allweddol canlynol:

  • diffiniad o waith ieuenctid fel rhan o wasanaethau cymorth ieuenctid ehangach
  • cyflwyno hawlogaeth newydd i bobl ifanc i waith ieuenctid
  • mecanwaith cynllunio ac adrodd strategol diwygiedig ar gyfer gwaith ieuenctid.

Bydd y fframwaith statudol newydd yn gofyn i bob awdurdod lleol gydweithio â’i bartneriaid, gan gynnwys sefydliadau gwirfoddol. Gyda’i gilydd byddant yn mabwysiadu dull ‘un sector’, wedi’i lywio gan dystiolaeth o anghenion pobl ifanc i ddarparu cynnig gwaith ieuenctid cyfoethog a pherthnasol i bobl ifanc.

Mae Llywodraeth Cymru bellach yn gwahodd ymarferwyr, arweinwyr ac unrhyw un sydd â diddordeb mewn sicrhau’r canlyniadau gorau i bobl ifanc yng Nghymru i ymateb i’r ymgynghoriad ffurfiol. Nod Llywodraeth Cymru yw casglu amrywiaeth o safbwyntiau i gefnogi’r camau nesaf.

Dyddiad cau ar gyfer ymatebion: 10 Ionawr 2025.

Rhagor o wybodaeth

Generic selectors
Exact matches only
Search in title
Search in content
Post Type Selectors