Cym | Eng

Ariannu

Ariannu: Morrisons Foundation

Date

18.02.2025

Category

Ariannu

Ariannu: Morrisons Foundation

Archwiliwch

Mae’r Morrisons Foundation yn cynnig grantiau o hyd at £10,000 i elusennau cofrestredig ddarparu prosiectau sy’n helpu i wella bywydau pobl mewn cymunedau yng Nghymru, Lloegr a’r Alban.

Mae gan y grant amcanion ariannu penodol, sef:

  1. mynd i’r afael â thlodi ac amddifadedd cymdeithasol
  2. gwella mannau, cyfleusterau a gwasanaethau cymunedol
  3. gwella iechyd a lles.

 

I fod yn gymwys, rhaid i fudiadau fod wedi cofrestru gyda’r Comisiwn Elusennau ers dros flwyddyn.

Mae’r Morrisons Foundation yn blaenoriaethu ceisiadau gan elusennau bach sydd ag incwm o lai na £1-miliwn.

Nid oes dyddiad cau ar gyfer ceisiadau ar hyn o bryd.

Rhagor o wybodaeth

Generic selectors
Exact matches only
Search in title
Search in content
Post Type Selectors