Cysylltwch â ni
Cym | Eng

Ariannu

Ariannu: Masonic Charitable Foundation

Date

09.06.2023

Category

Ariannu

Ariannu: Masonic Charitable Foundation

Archwiliwch

Mae’r Masonic Charitable Foundation Children and Young People Grant yn cynnig grantiau i elusennau lleol a chenedlaethol yn y DU sy’n helpu plant dan anfantais i oresgyn yr heriau y maent yn eu hwynebu.

Gall elusennau wneud cais am grant bach neu fawr, yn dibynnu ar eu hincwm.

Mae grantiau bach ar gyfer elusennau sydd ag incwm blynyddol rhwng £25,000 a £500,000. Mae’r grantiau hyn yn amrywio rhwng £1,000 a £5,000 y flwyddyn, am hyd at dair blynedd.

Ar gyfer grantiau bach, rhaid i o leiaf 75% o fuddiolwyr yr elusen fod yn blant a phobl ifanc dan anfantais.

Mae grantiau mawr ar gyfer elusennau sydd ag incwm blynyddol rhwng £500,000 a £5 miliwn. Mae’r grantiau hyn fel arfer yn amrywio o £10,000 i £60,000 a rhaid cael ei defnyddio am brosiect penodol. Gellir eu dyfarnu dros un i dair blynedd.

Ar gyfer grantiau mawr, rhaid i holl fuddiolwyr y prosiect fod yn blant a phobl ifanc dan anfantais a’u teuluoedd neu warcheidwaid.

Nid oes dyddiad cau ar gyfer gwneud cais i’r cynllun grant hwn.

Rhagor o wybodaeth

Generic selectors
Exact matches only
Search in title
Search in content
Post Type Selectors