Cym | Eng

Ariannu

Ariannu: Marsh Charitable Trust

Date

19.09.2024

Category

Ariannu

Ariannu: Marsh Charitable Trust

Archwiliwch

Mae Marsh Charitable Trust yn cynnig grantiau o hyd at £2,000 i helpu mudiadau bach i dalu am wariant fel treuliadau gwirfoddolwyr, diwrnodau hyfforddi, cynnal a chadw offer a threuliadau craidd eraill.

Mae mudiadau cymwys yn cynnwys y rhai sy’n darparu addysg a hyfforddiant, a lles cymdeithasol.

Rhaid i ymgeiswyr fod yn elusen gofrestredig gyda Chomisiwn Elusennau Cymru a Lloegr, Swyddfa Rheoleiddiwr Elusennau yr Alban neu Gomisiwn Elusennau Gogledd Iwerddon. Nid yw hyn yn cynnwys Cwmnïau Buddiant Cymunedol (CBC).

Rhaid i elusennau fod wedi’u sefydlu am fwy nag un flwyddyn ariannol a gallu darparu set lawn o’u Hadroddiad Blynyddol a Chyfrifon diweddaraf, neu’r wybodaeth ariannol gyfatebol os yw eu hincwm blynyddol o dan £25,000.

Nid oes dyddiad cau ar gyfer ceisiadau.

Rhagor o wybodaeth

Generic selectors
Exact matches only
Search in title
Search in content
Post Type Selectors