Archwiliwch
Mae’r cyfle diweddaraf i wneud cais am Local School Nature Grant nawr ar agor. Mae’r rhaglen grant, a ddarperir gan Learning through Landscapes, yn cefnogi ysgolion yn Lloegr, yr Alban a Chymru i hwyluso a gwneud y mwyaf o ddysgu yn yr awyr agored.
Mae dwy elfen i’r gronfa:
- £500 o offer ar gyfer dysgu yn yr awyr agored
- sesiwn hyfforddi dysgu dwy awr yn yr awyr agored i staff.
Gall darparwyr blynyddoedd cynnar, ac ysgolion cynradd ac uwchradd wneud cais am y grant. I fod yn gymwys, mae rhaid i leoliadau blynyddoedd cynnar fod ag o leiaf pum aelod o staff ac adeilad.
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 6 Medi 2024