Archwiliwch
Mae Learning through Landscapes a WWF yn cynnig grantiau o £12,000 yr un i ddeg ysgol sydd ar gychwyn eu taith dysgu yn yr awyr agored, ynghyd ag arweiniad arbenigol gan LtL. Mae’r gronfa Happy by Nature ar agor i ysgolion cynradd a ariennir gan y wladwriaeth yng Nghymru, Lloegr a’r Alban.
Mae hyfforddiant pellach gan staff LtL hefyd wedi’i gynnwys, i gefnogi disgyblion i fwynhau mwy o chwarae natur yn y mannau fydd wedi eu gwella. Bydd angen i ymgeiswyr ddangos tystiolaeth o ymrwymiad i gwblhau’r prosiect rhwng Medi 2026 a Haf 2027, yn ogystal â diffyg mannau gwyrdd awyr agored o safon ar hyn o bryd.
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 21 Mehefin 2026