Cym | Eng

Ariannu

Ariannu: Cymunedau Cwtsh Comic Relief

Date

10.04.2026

Category

Ariannu

Ariannu: Cymunedau Cwtsh Comic Relief

Archwiliwch

Mae cronfa Cymunedau Cwtsh Comic Relief, a gaiff ei rheoli gan CGGC a’i chyllido gan Comic Relief, yn anelu i rymuso grwpiau cymunedol i gynyddu eu heffaith, ymateb i anghenion brys ac adeiladu cymdogaethau cryfach a mwy gwydn ledled Cymru. Rhaid i weithgarwch y prosiect gael ei wneud yng Nghymru a rhaid i fudiadau eisoes fod yn gweithio yng Nghymru.

Mae’r gronfa yn cynnig grantiau i fudiadau gwirfoddol yng Nghymru â llai na £250,000 o incwm. Mae grantiau rhwng £15,000 a £35,000 ar gael i fudiadau sy’n gweithio mewn un neu ragor o dri maes blaenoriaethol y cynllun:

  • iechyd (datblygiad plentyndod cynnar)
  • anghenion sylfaenol
  • diogelwch.

Dan y thema blaenoriaethol iechyd (datblygiad plentyndod cynnar), bydd y gronfau yn cefnogi mentrau sy’n canolbwyntio ar les a datblygiad plant ifanc a’u teuluoedd, yn arbennig yn y blynyddoedd cynnar. Gall hyn gynnwys:

  • Grwpiau rhieni a phlant bach sy’n cynnig cyfleoedd am chwarae addysgol a chefnogaeth emosiynol
  • Sesiynau dysgu cynnar a arweinir gan y gymuned sy’n cefnogi lleferydd, iaith a datblygiad cymdeithasol
  • Prosiectau a arweinir gan rieni neu ofalwyr â phrofiad bywyd o anfantais, sy’n creu cyfleoedd i deuluoedd eraill gael cymorth gan gymheiriaid.

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 22 Mai 2026

Rhagor o wybodaeth

Generic selectors
Exact matches only
Search in title
Search in content
Post Type Selectors