Cysylltwch â ni
Cym | Eng

Ariannu

Ariannu: Plant mewn Angen – Costau Prosiect

Date

30.11.2022

Category

Ariannu

Ariannu: Plant mewn Angen – Costau Prosiect

Archwiliwch

Mae ffrwd ariannu Costau Prosiect Plant mewn Angen yn cefnogi nodau a darpariaeth darn penodol o waith. Bydd y gwaith hwn fel arfer yn gyfyngedig o ran amser, ac yn seiliedig ar set o weithgareddau diffiniedig.

Mae’r cynllun ar gyfer elusennau a mudiadau nid-er-elw. Gall ymgeiswyr i’r rhaglen hon wneud cais am grantiau am hyd at dair blynedd. Nod trefnwyr y cynllun yw gwneud penderfyniadau cyflymach am grantiau o £15,000 neu lai y flwyddyn.

Bydd y bobl a’r mudiadau sy’n gymwys ar gyfer y gronfa yn rhai sy’n:

  • gweithio gyda phlant a phobl ifanc 18 oed ac iau
  • gweithio yng nghanol eu cymunedau, yn enwedig ar adegau o argyfwng
  • rhoi plant a phobl ifanc wrth wraidd popeth a wnânt, o ddylunio i gyflenwi
  • mynd i’r afael â’r heriau y mae plant a phobl ifanc yn eu hwynebu, gan feithrin eu sgiliau a’u gwytnwch
  • grymuso plant a phobl ifanc, ac ymestyn eu dewisiadau mewn bywyd
  • yn awyddus i barhau i ddysgu am a datblygu eu gwaith gyda phlant a phobl ifanc
  • wedi ymrwymo i wneud gwahaniaeth ym mywydau plant a phobl ifanc.

Nid oes cyfyngiad amser ar ymgeiswyr i’r cynllun grant hwn.

Rhagor o wybodaeth

Generic selectors
Exact matches only
Search in title
Search in content
Post Type Selectors