Cym | Eng

Newyddion

Ffocws ar chwarae – Sut mae chwarae’n cefnogi iechyd meddwl plan

Date

12.08.2024

Category

Newyddion

Archwiliwch

Rydym wedi cyhoeddi rhifyn newydd o Ffocws ar chwarae, sy’n ystyried rôl allweddol chwarae plant wrth hybu lles ac iechyd meddwl cadarnhaol. Mae wedi’i anelu at Fyrddau Partneriaeth Rhanbarthol a Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus ac mae’n trafod ffyrdd y gall cynlluniau lleol a rhanbarthol gefnogi chwarae.

Mae polisïau cenedlaethol a rhyngwladol yn amddiffyn hawl plant i chwarae. Yn 2010, Cymru oedd y wlad gyntaf yn y byd i ddeddfu dros chwarae drwy Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010. Mae’r Ddyletswydd Digonolrwydd Cyfleoedd Chwarae yn gosod cyfrifoldeb ar awdurdodau lleol i ddangos i Lywodraeth Cymru sut maent yn darparu digon o gyfleoedd i blant chwarae yn eu hardal.

Yn y rhifyn hwn o Ffocws ar chwarae, rydym yn archwilio:

  • sut mae chwarae yn cyfrannu at les uniongyrchol a thymor hir, iechyd corfforol, iechyd meddwl a gwytnwch plant
  • y polisïau cenedlaethol a rhyngwladol sy’n deddfu ar gyfer ac yn cymeradwyo chwarae fel rhywbeth hanfodol i iechyd a lles plant
  • gwaith chwarae a rôl gweithwyr chwarae wrth gefnogi darpariaeth chwarae plant
  • pwysigrwydd cydgynhyrchu a sicrhau dulliau integredig at chwarae a lles
  • sut y gall Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol a Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus gyfrannu.

Lawrlwytho Ffocws ar chwarae

Generic selectors
Exact matches only
Search in title
Search in content
Post Type Selectors