Archwiliwch
Mae Gofal Cymdeithasol Cymru yn cynnal arolwg o’r gweithlu blynyddoedd cynnar a gofal plant ac maent yn awyddus i glywed gan bobl sy’n gweithio ar draws y sector yng Nghymru.
Os ydych chi’n gweithio ym maes blynyddoedd cynnar a gofal plant, dyma’ch cyfle i ddweud eich dweud am beth sy’n gweithio’n dda, beth sy’n anodd, a beth fyddai’n helpu i wneud y sector yn lle gwell i weithio.
Wrth lansio’r arolwg, dywedodd Gofal Cymdeithasol Cymru:
‘Dyma’r ail flwyddyn i ni gynnal yr arolwg hwn. Mae’r hyn a ddywedoch chi wrthym ni llynedd wedi rhoi darlun cliriach i ni o’r gweithlu. Bydd arolwg eleni yn adeiladu ar hynny, gan ein helpu i ddeall beth sydd wedi newid, beth sydd angen sylw o hyd, a pha gefnogaeth y gallai fod ei hangen ar y gweithlu yn y dyfodol.’
Dyddiad cau ar gyfer ymateb i’r arolwg: 30 Tachwedd 2026