Archwiliwch
Heddiw (17 Medi 2025), mae’n Ddiwrnod Diogelwch Cleifion y Byd – diwrnod i hyrwyddo bod gan bob plentyn yr hawl i ofal iechyd diogel, ac o safon uchel, o’r cychwyn cyntaf.
Wedi’i drefnu’n flynyddol gan Sefydliad Iechyd y Byd (WHO), un o amcanion y diwrnod yw codi ymwybyddiaeth fyd-eang o risgiau diogelwch mewn gofal pediatrig a newydd-anedig ym mhob lleoliad gofal iechyd, gan bwysleisio anghenion penodol plant a theuluoedd.
I nodi’r diwrnod, rydym yn rhannu dau o’n cyhoeddiadau diweddar sy’n cefnogi rheini sy’n gweithio gyda phlant o bob oedran mewn lleoliadau gofal iechyd i ddarparu cyfleoedd iddynt chwarae. Mae’r ddau adnodd yn pwysleisio effaith gadarnhaol chwarae ar les a phrofiad plant ac arddegwyr sy’n gleifion mewn ysbytai a lleoliadau gofal iechyd eraill.
Chwarae mewn gofal iechyd – taflen wybodaeth sy’n egluro pam ei bod yn bwysig darparu gwahanol fannau a chyfleoedd i blant mewn lleoliadau gofal iechyd chwarae, gan gynnwys ystafelloedd chwarae, mannau i blant hŷn a gofod awyr agored. Mae’n archwilio’r gwahanol ymyriadau chwarae iechyd a all gefnogi plant a’u teuluoedd i ddatblygu gwell dealltwriaeth o’u salwch a’u triniaeth. Mae’r daflen wybodaeth hefyd yn cynnwys disgrifiadau o’r gwahanol rolau medrus ac arbenigol sydd gan y gweithlu chwarae iechyd.
Ffocws ar chwarae: chwarae mewn gofal iechyd – papur briffio sydd wedi’i anelu at y rhai sy’n cefnogi lles plant ac arddegwyr sy’n gleifion mewn ysbytai neu leoliadau cymunedol, fel hosbisau plant. Wedi ei gymeradwyo gan Starlight Children’s Foundation, mae’n esbonio sut y profwyd bod chwarae’n cael effaith gadarnhaol ar les plant ac arddegwyr mewn ysbytai a lleoliadau gofal iechyd, a’u gallu i ymdopi gydag ofn, poen a thriniaeth. Mae’r papur briffio hefyd yn disgrifio buddiannau economaidd darparu chwarae mewn lleoliadau gofal iechyd ac mae’n amlinellu cyflwr chwarae iechyd yng Nghymru.