Cym | Eng

Newyddion

Diwrnod Chwarae hapus!

Date

06.08.2024

Category

Newyddion

Archwiliwch

Wrth i filoedd o blant ac arddegwyr ddod at ei gilydd i ddathlu Diwrnod Chwarae mewn digwyddiadau ledled Cymru a gweddill y DU, mae’r diwrnod chwarae cenedlaethol yn gyfle amserol i amlygu pwysigrwydd chwarae a chyfeillgarwch, i blant o bob oedran.

Mae thema Diwrnod Chwarae eleni yn canolbwyntio ar ddiwylliant cyfoethog a bywiog plant yn chwarae. Mae chwarae yn creu diwylliant o blentyndod. Chwarae yw canolbwynt bywydau plant ac mae’n rhan allweddol o’u hiechyd, o’u hapusrwydd a’u creadigrwydd. Drwy chwarae:

  • mae plant yn datblygu ymdeimlad o ddiwylliant ac yn dod i’w werthfawrogi
  • mae’n annog plant i archwilio’n ddiwylliannol, gan feithrin ffyrdd o werthfawrogi amrywiaeth
  • mae plant yn cydweithio, yn negodi ac yn creu perthnasoedd
  • mae plant yn teimlo cysylltiad â’i gilydd ac â’u cymdogaeth
  • mae plant yn creu gemau, caneuon a straeon ac yn eu trosglwyddo i eraill.

Yn ystod Diwrnod Chwarae eleni, rydym yn gwahodd teuluoedd, gweithwyr chwarae, swyddogion gwneud penderfyniadau a phawb sy’n gweithio gyda phlant ar hyd a lled Cymru, i ddod at ei gilydd i feithrin diwylliant chwarae.

Meddai Mike Greenaway, Cyfarwyddwr Chwarae Cymru:

‘Mae angen i ni roi mwy o gyfleoedd i blant chwarae – nid dim ond yn ystod y Diwrnod Chwarae, ond bob diwrnod o’r flwyddyn. Mae chwarae yn rhan o ddiwylliant plant, nid rhywbeth moethus, mae’n ymwneud â’r ffordd maen nhw’n datblygu perthnasoedd, yn mynegi eu creadigrwydd, ac yn dysgu am eu lle yn yr amgylchedd a’r gymuned.

Yn aml, bydd plant yn cael y pleser a’r hapusrwydd mwyaf pan fyddant yn chwarae, ac yn cael rhyddid i archwilio gartref a phrofi anturiaethau bob dydd gyda theulu a ffrindiau. Ymunwch â ni heddiw a drwy gydol y gwyliau ac ar ôl hynny i roi rhyddid i blant chwarae.’

Mae gan bob plentyn yr hawl i chwarae. Ar Ddiwrnod Chwarae a bob dydd, gadewch i ni ddod at ein gilydd i greu dyfodol mwy chwareus i’n plant a’n harddegwyr.

Rhagor o wybodaeth

 

Generic selectors
Exact matches only
Search in title
Search in content
Post Type Selectors