Archwiliwch
Mae’r rhifyn newydd o gylchgrawn Chwarae dros Gymru yn archwilio’r thema o chwarae yn y gymdogaeth, gan ganolbwyntio ar leoedd a mannau i chwarae. Mae’n cynnwys enghreifftiau o bob cwr o Gymru.
Mae chwarae’n cefnogi plant i deimlo’n rhan o’u cymdogaethau ac mae plant ledled Cymru yn dweud wrthym bod cyfleoedd i chwarae yn eu hardal leol, gyda’u ffrindiau, yn bwysig iddyn nhw. Mae’r erthyglau yn tynnu sylw at ddulliau cydweithredol amrywiol o gynnig cyfleoedd chwarae i gwrdd â anghenion plant yn eu hardaloedd. Bydd bod yn ystyriol o brofiadau plant a’u perthynas â chymdogaethau yn helpu i greu Cymru sy’n fwy chwareus i bob plentyn.
Yn y rhifyn Chwarae yn y gymdogaeth: lleoedd a mannau i chwarae ceir:
- Yr hyn mae bron i 8,000 o blant ledled Cymru yn ei ddweud am chwarae yn y gymdogaeth – beth sy’n dda a beth sydd ddim cystal am eu cyfleoedd i chwarae
- Meddwl yn greadigol – enghreifftiau o brosiectau chwarae mewn cymdogaethau a arweinir gan Dîm Chwarae ac Ieuenctid Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, Gwasanaethau Chwarae Plant Cyngor Caerdydd ac Uned Blynyddoedd Cynnar Gwynedd
- Stryd chwarae Romilly Road – trefnydd stryd chwarae sy’n rhannu ei phrofiadau o greu cymuned chwareus yn Y Barri ym Mro Morgannwg
- Diwrnod Chwarae 2025 – casgliad o luniau o blant a theuluoedd ar draws Cymru yn dathlu’r diwrnod chwarae cenedlaethol
- Lôn chwarae ym Mhilgwenlli – esiampl o sut mae cymuned yng Nghasnewydd wedi gweithio gyda darparwr tai i drawsnewid lôn i greu man chwarae dros dro ar gyfer plant lleol
- Gwella mannau chwarae a meysydd chwarae – trosolwg o fuddsoddiad Llywodraeth Cymru i wella cyfleoedd chwarae ynghyd â enghraifft ymarfer dda o faes chwarae, Williams Field Lane, sydd wedi’i adnewyddu gan Gyngor Sir Fynwy
- Swyddog datblygu chwarae cymunedol sydd dan y chwyddwydr – rhoi darlun o rôl yn y byd chwarae a gwaith chwarae.
Mae’r rhifyn hwn hefyd yn cynnwys dwy erthygl ryngwladol:
- Is-gadeirydd Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn, Yr Athro Emeritws Philip Jaffé, sy’n rhannu ei farn am bwysigrwydd hawl plant i chwarae ac sut y dylid ei flaenoriaethu mewn byd heriol sy’n newid
- Ysgrifennydd cangen IPA Cymru Wales, Marianne Mannello, sy’n adrodd am brosiect cydweithredol chwareus gyda IPA Japan i ddathlu Diwrnod Rhyngwladol Chwarae eleni.