Cym | Eng

Newyddion

Cylchgrawn newydd: Chwarae yn y blynyddoedd cynnar

Date

10.10.2024

Category

Newyddion

Archwiliwch

Rydym wedi cyhoeddi rhifyn newydd o Chwarae dros Gymru, sy’n archwilio’r thema chwarae yn y blynyddoedd cynnar. Mae’n amlygu sut y gall rhyngweithiadau, profiadau ac amgylcheddau cynnar osod y sylfeini i blant wneud y gorau o gyfleoedd chwarae wrth iddyn nhw dyfu a datblygu.

Mae’r rhifyn Chwarae yn y blynyddoedd cynnar yn cynnwys:

  • Datgloi pŵer chwarae yn ystod y 1000 diwrnod cyntaf – mae Julie Powell yn archwilio pa mor bwysig yw chwarae yn ystod diwrnodau cynharaf bywyd plentyn
  • Anna Westall yn rhannu enghreifftiau o arfer da wrth ymgynghori a gwrando ar ein plant ifancaf
  • Dr. Nalda Wainwright yn trafod y wyddoniaeth sy’n ymwneud â phwysigrwydd y blynyddoedd cynnar
  • Datblygu ymateb cymdogaethau i’r Ddyletswydd Digonolrwydd Cyfleoedd Chwarae – trosolwg o’r astudiaeth ymchwil a gynhaliwyd gan Wendy Russell, Donna Gaywood, Mike Barclay a Ben Tawil
  • Cadw cydbwysedd rhwng chwarae a dysgu chwareus – polisïau addysg blynyddoedd cynnar allweddol yng Nghymru
  • Archwiliad o sut y gallwn gefnogi chwarae o bob oedran, yn yr erthygl Chwarae: diwylliant plentyndod
  • Cyfweliad gyda Sarah Sharpe, gwarchodwr plant cofrestredig
  • ‘Arafwch yrrwyr i ni gael chwarae’ – sut mae grŵp o blant yn ymdrechu i wneud eu cymdogaeth yn lle cyfeillgar a diogel i chwarae.
  • Adroddiad diweddaru ar brosiectau a digwyddiadau Chwarae Cymru ledled y wlad.

Lawrlwytho’r cylchgrawn

Generic selectors
Exact matches only
Search in title
Search in content
Post Type Selectors