Cysylltwch â ni
Cym | Eng

Newyddion

Cylchgrawn newydd: Chwarae a lles – cip arall

Date

01.03.2024

Category

Newyddion

Archwiliwch

Mae’r rhifyn newydd o Chwarae dros Gymru yn cymryd cip arall ar chwarae a lles. Dengys yr erthyglau sut y gall amser, lle a rhyddid i chwarae fod o fudd mawr i iechyd meddwl plant, gan liniaru straen a lleihau effaith niweidiol trawma.

Mae’r rhifyn Chwarae a lles – cip arall yn cynnwys:

  • Yr Athro Helen Dodd, Ms Gill Hearnshaw a Dr Lily Fitzgibbon yn dweud wrthym pam fod chwarae rhydd o bwys i iechyd meddwl plant
  • Cyflwyniad i ddull galluogrwydd perthynol tuag at les gan Dr Wendy Russell, Mike Barclay a Ben Tawil
  • Y tîm ym Maes Chwarae Antur Meriden yn rhannu eu profiad o ddefnyddio arddull chwarae therapiwtig yn eu lleoliad
  • Defnyddio ymarfer wedi’i hysbysu gan chwarae i gefnogi plant sydd wedi’u heffeithio gan drawma
  • Trosolwg o brosiect cydweithredol newydd rhwng ymchwilwyr ym Mhrifysgol Caerdydd, Starlight a Chwarae Cymru i wella profiadau chwarae plant mewn ysbytai
  • Archwilio sut mae chwarae a gwaith chwarae yn cysylltu gyda egwyddorion fframwaith NYTH Llywodraeth Cymru
  • Creu’r cysylltiadau rhwng yr Adolygiad Gweinidogol o Gyfleoedd Chwarae a Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn
  • Cyflwyniad i’n taflen wybodaeth sydd newydd ei diweddaru, Amddifadedd chwarae: yr achosion a’r canlyniadau ar gyfer datblygiad plant, a photensial gwaith chwarae, a ysgrifennwyd gan Yr Athro Emeritws Fraser Brown
  • Newyddion cyffrous am ariannu ar gyfer cymwysterau gwaith chwarae
  • Cyfweliad gyda Emma Booth am waith chwarae mewn carchardai
  • Esiampl o gymuned chwareus ble mae ffocws ar chwarae yn ganolog i welliannau cydweithredol yng Nghanolfan Iechyd Plant Wrecsam.

Lawrlwytho’r cylchgrawn

Generic selectors
Exact matches only
Search in title
Search in content
Post Type Selectors