Archwiliwch
Mae Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd yn cynnal tri ymgynghoriad sy’n berthnasol i’r sector chwarae a gwaith chwarae. Fel rhan o adolygiadau a gynhelir eleni, mae’r llywodraeth eisiau eich barn ar:
Adolygiad o Ddyletswydd Awdurdodau Lleol i gynnal Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant
Mae’r ymgynghoriad hwn yn canolbwyntio ar gynnig ynghylch datblygu Asesiadau o Ddigonolrwydd Gofal Plant (ADGP) yn y dyfodol. Mae’r materion a ymgynghorir arnynt yn cynnwys:
- fformat, cynnwys, proses a chylch cynllunio’r ADGPau
- newidiadau neu welliannau i’r canllawiau statudol er mwyn cefnogi’r newidiadau arfaethedig i’r rheoliadau
- yr adnoddau sydd eu hangen i gefnogi datblygiad yr ADGP.
Mae cysylltiadau ag Asesiadau Digonolrwydd Chwarae o ran amseriad, proses a chynnwys a allai gefnogi cysylltiadau cadarnhaol rhwng y ddau asesiad.
Dyddiad cau ar gyfer ymatebion: 17 Hydref 2025
Eithriadau o ran cofrestru gofal plant a’r cynnig ar gyfer Cynllun Cymeradwyo Gwirfoddol
Mae’r ymgynghoriad hwn yn canolbwyntio ar newidiadau arfaethedig i’r rheolau ynghylch cofrestru gwarchod plant a gofal dydd, a datblygu Cynllun Cymeradwyo Gwirfoddol. Fe ymgynghorir ar y materion hyn:
- y newidiadau a gynigiwyd i’r amgylchiadau lle nad yw’n ofynnol i ddarparwr gofrestru fel gwarchodwr plant neu ddarparwr gofal dydd
- y cynnig i ddatblygu Cynllun Cymeradwyo Gwirfoddol ar gyfer darparwyr gofal plant, gwaith chwarae a gweithgareddau sydd wedi’u heithrio rhag gorfod cofrestru
- effaith bosibl y newidiadau hyn ar ystod o ffactorau, gan gynnwys y Gymraeg.
Bydd ymateb drafft ar gael ar ein gwefan o 17 Hydref i gefnogi’r sector i ymateb.
Dyddiad cau ar gyfer ymatebion: 3 Tachwedd 2025
Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Gofal Plant a Reoleiddir
Mae’r ymgynghoriad hwn yn canolbwyntio ar y newidiadau arfaethedig diweddaraf i’r Safonau Gofynnol Cenedlaethol (NMS) ar gyfer Gofal Plant a Reoleiddir i blant hyd at 12 oed. Mae’r cynigion yn cynnwys:
- strwythur a fformat y safonau
- y bennod ar ddarpariaeth o ansawdd uchel
- safonau chwarae mynediad agored
- gweinyddu parasetamol hylifol yn unol â Safon 11: meddyginiaeth
- y defnydd o staff mewn lleoliadau gofal dydd
- cynorthwywyr gwarchodwyr plant a chymarebau gwarchod plant
- yr effaith ar y Gymraeg.
Bydd ymateb drafft ar gael ar ein gwefan o 28 Tachwedd i gefnogi’r sector i ymateb.
Dyddiad cau ar gyfer ymatebion: 10 Rhagfyr 2025