Archwiliwch
Mae Llywodraeth Cymru yn ymgynghori ar y trydydd diwygiad i Ganllawiau’r Ddeddf Teithio Llesol a fydd yn cael ei gyhoddi yn 2026. Bydd adran 8.7 (tudalennau 96 i 100) y ddogfen ymgynghori, sy’n canolbwyntio ar chwarae, o ddiddordeb arbennig.
Mae’r fersiwn diwygiedig hwn yn anelu i gryfhau hygyrchedd a chynhwysiant, yn atgyfnerthu tystiolaeth newydd ac arferion proffesiynol, ac yn datrys yr anghysondebau yn fersiwn 2021. Bwriad y diwygiadau arfaethedig yw:
- Gwella dyluniad yr wybodaeth yn y dogfennau, gan fireinio eglurder, fformat, cynwysoldeb a hygyrchedd
- Defnyddio ieithwedd sy’n rhoi ffocws ar bobl mewn ffordd sy’n cyd-fynd yn well â Deddf Cydraddoldeb 2010
- Adnewyddu’r cyd-destun polisi
- Darparu eglurder ar y safonau dylunio, gan gynnwys lled lonydd, cyffyrdd a chyfeiriadau at greu lleoedd
- Symleiddio penodau lle bo hynny’n bosibl a chryfhau’r canllawiau ymgysylltu i annog mwy o gyfranogiad cynhwysol
- Cefnogi mwy o integreiddio rhwng trafnidiaeth gyhoeddus a cherdded, olwyno a beicio
- Pwysleisio arferion sy’n seiliedig ar dystiolaeth a defnyddio terminoleg gyson i gefnogi awdurdodau lleol i ddarparu rhwydweithiau teithio llesol cynhwysol o ansawdd uchel ledled Cymru.
Erys y rhain yn ganllawiau technegol craidd ar gyfer cynllunio, blaenoriaethu, dylunio a darparu seilwaith cerdded, olwyno a beicio o dan Ddeddf Teithio Llesol (Cymru) 2013.
Dyddiad cau ar gyfer ymateb i’r ymgynghoriad: 13 Chwefror 2026