Archwiliwch
Mae ceisiadau ar agor ar gyfer y Children & Young People Now Awards eleni, sy’n cynnwys categori ar gyfer chwarae plant.
Gall unrhyw fudiad neu unigolyn sydd wedi’i lleoli ac sy’n gweithio yn y DU ymgeisio am y gwobrau.
Bydd y Play Award yn cael ei chyflwyno i’r fenter sydd wedi gwneud y mwyaf i gynnig cyfleoedd i blant a phobl ifanc chwarae’n rhydd, mwynhau plentyndod a chyfrannu at eu datblygiad cymdeithasol, emosiynol a chorfforol.
Bydd y beirniaid yn chwilio am waith sydd wedi galluogi plant i ddilyn eu syniadau a’u diddordeb eu hunain, yn eu ffordd eu hunain.
Mae categorïau eraill yn cynnwys:
- The Early Years Award
- Children and Young People’s Champion
- The Children and Young People’s Charity Award.
Mae’r Gwobrau yn cynnig cyfle i godi proffil prosiectau a mentrau i gyllidwyr a’r cyhoedd. Cyhoeddir yr enillwyr mewn cinio gala a seremoni wobrwyo yn Llundain ar 20 Tachwedd 2025.
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 12 Mehefin 2025.