Cym | Eng

Newyddion

Cynnig gofal plant – cyhoeddi cyllid

Date

16.06.2026

Category

Newyddion

Archwiliwch

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi buddsoddiad o £55 miliwn mewn gofal plant, gan gynnwys y broses o gyflwyno gofal plant a ariennir i fwy o blant dwy oed ledled Cymru a £10 miliwn o gyllid cyfalaf, fel rhan o’r Gyllideb Atodol Gyntaf 2026-27. Mae’r cyllid yn gam sylweddol tuag at ymrwymiad y llywodraeth i ddarparu 20 awr o ofal a ariennir yr wythnos i bob plentyn rhwng naw mis a phedair oed.

Bydd y cyllid hwn yn helpu i gyflymu’r broses o gyflwyno 12.5 awr o ofal plant a ariennir yr wythnos i bob plentyn dwy oed, a ddarperir trwy awdurdodau lleol. Bae Wrecsam wedi ymuno ag Abertawe, Merthyr Tudful a Chasnewydd wrth ddarparu gofal plant a ariennir i bob plentyn dwy oed yn eu hardaloedd. Bydd £10m o gyllid cyfalaf yn helpu i wella ac ehangu lleoliadau gofal plant, gan wella ansawdd, capasiti a hygyrchedd y ddarpariaeth blynyddoedd cynnar.

Mae hyn yn gyflwyniad graddol fel rhan o ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddarparu’r cynnig gofal plant mwyaf hael yn unrhyw le yn y DU. Bydd y Grŵp Llywio Arbenigol ar Ehangu Gofal Plant yn cynghori ar ddatblygu’r broses gyflwyno, gan ganolbwyntio ar gynllunio’r gweithlu, cymwysiadau digidol a gwella mynediad i bob teulu.

Rhagor o wybodaeth

Generic selectors
Exact matches only
Search in title
Search in content
Post Type Selectors