Cym | Eng

Newyddion

Cynnig gofal plant – sefydlu grŵp arbenigol

Date

16.06.2026

Category

Newyddion

Archwiliwch

Mae’r Dirprwy Brif Weinidog a Gweinidog Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Chydraddoldeb, Sioned Williams, wedi amlinellu ei blaenoriaethau ar fynd i’r afael â thlodi ac ar gyfer bwrw ymlaen â’r cynnig gofal plant.

Yn ei datganiad llafar cyntaf i’r Senedd, cyhoeddodd y Dirprwy Brif Weinidog y bydd Grŵp Llywio Arbenigol ar Ehangu’r Ddarpariaeth Gofal Plant yn cael ei sefydlu a fydd yn llywio’r broses o gyflwyno’r cynnig estynedig. Cenhadaeth ganolog y grŵp fydd gwreiddio’r gwaith o gyflwyno’r cynnig gofal plant fesul cam, gyda chynllunio’r gweithlu, gwella mynediad a symleiddio’r broses ymgeisio fel blaenoriaethau clir.

Dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog:

‘Bydd y Grŵp Arbenigol hwn yn allweddol i gyflawni’r newid trawsnewidiol … Mae gwaith ar y gweill gydag awdurdodau lleol i gyflymu’r broses o gyflwyno gofal plant a ariennir, gan gynnwys gyrru’r gwaith o ddarparu 12.5 awr i bob plentyn dwy oed wrth gynllunio a phrofi ar gyfer y camau ehangu nesaf, sef 20 awr o ofal plant wedi’i ariannu yr wythnos ar gyfer pob plentyn rhwng 9 mis a 4 oed yn y pen draw.’

Meddai Chwarae Cymru, wrth ymateb i’r cyhoeddiad:

‘Mae Chwarae Cymru yn croesawu cyhoeddiadau diweddar Llywodraeth Cymru ynghylch ehangu’r cynnig gofal plant ledled Cymru i bob plentyn hyd at bedair oed. Fel y disgrifia’r llywodraeth ei fod yn gynnig “trawsnewidiol”, mae gan yr ehangiad y potensial i ymateb i’w nod o leihau tlodi ac adeiladu cymunedau tecach a mwy diogel.

Bydd darparu gofal plant o ansawdd uchel yn cefnogi mwy o fabanod, plant bach a phlant ifanc i gael gwell cyfleoedd i chwarae. Mae chwarae yn rhoi mwynhad ar unwaith i blant. Mae chwarae’n hybu canlyniadau datblygiadol sydd wedi’u hen sefydlu ar gyfer dysgu, twf corfforol a sgiliau cymdeithasol, fel rheoli emosiynau, meithrin hunanhyder a gwydnwch.

Dylai darpariaeth ar gyfer chwarae fod yn ganolog i’r rhaglen hon sy’n anelu at gefnogi iechyd a lles plant a theuluoedd. Rydym yn annog y grŵp llywio sydd newydd ei ffurfio i sicrhau bod y rhaglen ehangu yn cydnabod yr angen am ymarferwyr gwybodus am chwarae sy’n deall pwysigrwydd chwarae a sut i’w hwyluso mewn lleoliadau gofal plant.’ 

Rhagor o wybodaeth

Generic selectors
Exact matches only
Search in title
Search in content
Post Type Selectors