Archwiliwch
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canllawiau a fydd o gymorth i ddeall Gorchymyn Eithriadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Dirymu a Darpariaeth Drosiannol) (Cymru) 2026, sy’n dod i rym ym mis Ebrill 2027.
Bwriad y canllawiau yw helpu darparwyr i ddeall beth y bydd y Gorchymyn yn ei olygu i’w darpariaeth, ac a allai fod angen iddynt gofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru. Gallai hyn fod yn berthnasol i ddarparwyr yn y sectorau cofrestredig ac anghofrestredig, gan gynnwys y rhai sy’n cynnig cyfleoedd chwarae, gofal plant, gweithgarwch, coetsio neu ddarpariaeth ddysgu.
Mae Llywodraeth Cymru yn annog darparwyr i ddarllen y canllawiau ac ystyried beth y gallai’r Gorchymyn ei olygu i’w gwasanaeth. Dylid cyfeirio unrhyw gwestiynau ynghylch a oes angen i wasanaeth gofrestru at Arolygiaeth Gofal Cymru.