Archwiliwch
Mae Plant yng Nghymru, mewn partneriaeth â Rhwydwaith Dileu Tlodi Plant Cymru (ECPN), yn cynnal ei Arolwg Tlodi Plant a Theuluoedd blynyddol.
Mae canfyddiadau’r arolygon hyn yn helpu Plant yng Nghymru ac ECPN i nodi a deall mwy am y materion presennol a’r effaith y mae tlodi yn ei gael ar blant, pobl ifanc a theuluoedd yng Nghymru. Bydd y canfyddiadau, a fydd yn cael eu cyhoeddi yng Ngwanwyn 2027, yn cael eu defnyddio i lunio a llywio polisi ac arfer yng Nghymru.
Mae’r gwaith yn cynnwys tri arolwg:
- Arolwg ar gyfer Gweithwyr Proffesiynol ac Ymarferwyr
- Arolwg ar gyfer Pobl Ifanc
- Arolwg ar gyfer Plant.
Dywedodd Plant yng Nghymru a ECPN:
‘Beth bynnag fo’ch rôl neu sector, mae eich profiadau a’ch safbwyntiau yn cael eu gwerthfawrogi’n fawr ac yn bwysig i ni. P’un a ydych yn ymarferwr, yn addysgwr, yn wneuthurwr polisi neu’n rheolwr, os yw eich rôl yn cynnwys cylch gwaith ar gyfer plant, pobl ifanc a theuluoedd, yna rydym am glywed gennych.’
Rhannwch yr arolygon gyda’r plant ac arddegwyr yr ydych chi’n gweithio â hwy, os gwelwch yn dda.
Dyddiad cau ar gyfer pob arolwg: 22 Hydref 2026