Archwiliwch
Mae’r Arolygon Tlodi Plant a Theuluoedd 2024, sy’n cael eu cynnal gan Plant yng Nghymru mewn partneriaeth â Rhwydwaith Dileu Tlodi Plant Cymru (ECPN), bellach ar agor.
Mae’r arolygon blynyddol yn ceisio nodi a deall mwy am y broblemau presennol ac effaith tlodi ar blant, pobl ifanc a’u teuluoedd yng Nghymru.
Bydd y canfyddiadau’n cael eu cyhoeddi a’u lledaenu ym mis Hydref 2024, gyda’r nod o helpu i lunio a llywio polisi ac arfer yng Nghymru.
Mae tair fersiwn o’r arolygon ar gael – un ar gyfer ymarferwyr a gweithwyr proffesiynol, un ar gyfer rhieni a gofalwyr, ac un ar gyfer plant a phobl ifanc. Mae’r arolygon yn cymryd tua 15 munud i’w cwblhau.
Dyddiad cau ar gyfer yr arolygon: 5 Mehefin 2024