Archwiliwch
Dengys datganiad sefyllfa Outdoor Play Canada sydd newydd ei lansio sut mae chwarae egnïol yn yr awyr agored yn cefnogi iechyd, cynhwysiant a chynaliadwyedd amgylcheddol ar gyfer pob oed a chymuned. Mae’r 2025 Position Statement on Active Outdoor Play, a gyhoeddwyd ddeng mlynedd ers rhyddhau’r datganiad gwreiddiol, yn ymestyn ar fersiwn 2015 trwy ehangu ei gyrhaeddiad yn fyd-eang, ehangu ei gynnwys a phwysleisio cynhwysiant ar draws pob oedran.
Ers 2015, mae ymchwil, polisïau a rhaglenni sy’n cefnogi chwarae awyr agored wedi tyfu ledled y byd. Mae’r datganiad diweddaraf yn dathlu’r cynnydd hwn ac yn amlinellu llwybr a rennir ymlaen. Mae’n archwilio’r perthnasoedd rhwng chwarae awyr agored a:
- cysylltiad cymunedol a dynol
- natur, newid hinsawdd a’r amgylchedd
- iechyd a lles
- addysg a dysgu
- hawliau dynol a pholisi.
Mae’r datganiad wedi’i ddatblygu dros gyfnod o dair blynedd, gan gynnwys grŵp rhyngwladol o dros 130 o ymchwilwyr, arweinwyr meddwl, ymarferwyr, llunwyr polisi, ac unigolion a grwpiau gweithredol eraill sy’n berthnasol i chwarae yn yr awyr agored.