Archwiliwch
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai, Jayne Bryant AS, wedi cyhoeddi neges ar Ddiwrnod Chwarae yn cydnabod pwysigrwydd mannau chwarae o safon ym mywydau plant.
Yn ystod ymweliad ag ardal Pentref Plant ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol yn Wrecsam, cydnabu Ysgrifennydd y Cabinet werth mannau chwarae hygyrch a chynhwysol i bob plentyn a pherson ifanc.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet:
‘Ar Ddiwrnod Chwarae Cenedlaethol y flwyddyn hon, mae’n bwysig cydnabod y rôl hanfodol sydd gan fannau chwarae o safon yn ein cymunedau. Mae Llywodraeth Cymru yn darparu cyllid ychwanegol i awdurdodau lleol i wella meysydd chwarae oherwydd ein bod wedi ymrwymo i sicrhau, waeth beth fo’u cefndir, fod gan bob plentyn yng Nghymru fynediad at gyfleusterau chwarae rhagorol.’
Cafodd pwysigrwydd chwarae a mannau chwarae o safon ei gydnabod hefyd gan y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol, Dawn Bowden AS mewn neges a ryddhawyd ar Ddiwrnod Chwarae.
Dywedodd y Gweinidog:
‘Y thema eleni yw ‘mannau chwarae’, ac rwy’n falch iawn ein bod wedi buddsoddi £5m y flwyddyn ariannol hon i wella ansawdd mannau chwarae a meysydd chwarae ledled Cymru.
‘Mae gan blant hawl i chwarae – ac mae chwarae nid yn unig yn hwyl ond hefyd yn bwerus, ac yn cyfrannu at iechyd, hapusrwydd a datblygiad plant. Rydyn ni eisiau Cymru lle mae gan bob plentyn ddigon o gyfleoedd cyfoethog i chwarae.’