Archwiliwch
Mae’r Loteri Genedlaethol yn cynnig grantiau ar gyfer prosiectau yng Nghymru sydd â’r nod o gefnogi’r hyn sy’n bwysig i bobl a chymunedau. Gallwch ymgeisio am hyd at £10,000 ar y tro i uchafswm o £20,000 yn ystod cyfnod o 12 mis.
Mae’r gronfa yn bennaf ar gyfer prosiectau a mudiadau sy’n anelu at:
- dod â phobl ynghyd a meithrin perthnasoedd cryf mewn cymunedau ac ar eu traws
- gwella’r llefydd a’r mannau sy’n bwysig i gymunedau
- helpu mwy o bobl i gyrraedd eu potensial, trwy eu cefnogi yn ystod y cam cynharaf posibl.
- cefnogi pobl, cymunedau a sefydliadau sy’n wynebu galwadau a heriau cynyddol o ganlyniad uniongyrchol i’r argyfwng costau byw.
Mae’r dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yn parhau.