Archwiliwch
Mae cynllun peilot teithiau bws £1 Llywodraeth Cymru wedi ei ymestyn i gynnwys plant ac arddegwyr pump i bymtheg mlwydd oed. Bydd y cynllun peilot, sy’n cynnig tocyn unffordd am £1 a thocyn diwrnod am £3 ar gyfer unrhyw wasanaethau bysiau sy’n cymryd rhan, yn rhedeg tan fis Awst 2026.
Ers lansio’r cynllun ar gyfer pobl un ar bymtheg i un ar hugain mlwydd oed ym mis Medi, mae bron i 250,000 o deithiau wedi eu gwneud gan bobl ifanc yn defnyddio’r teithiau rhatach. Yn wahanol i’r rhai sy’n un ar bymtheg i un ar hugain oed, nid oes angen Fy Ngherdyn Teithio ar blant pump i bymtheg oed er mwyn derbyn y prisiau rhatach.
Bydd yr estyniad i’r cynllun yn cyfrannu tuag at alluogi mwy o blant ac arddegwyr ledled Cymru i deithio i chwarae a chymdeithasu gyda’u ffrindiau.
Dywed y Prif Weinidog, Eluned Morgan:
‘Rydyn ni’n cyflawni ein haddewid i dorri costau teithio i helpu i ddileu rhwystrau, oherwydd dydyn ni ddim yn disgwyl i unrhyw berson ifanc yng Nghymru deimlo yn ynysig neu ei fod wedi’i anwybyddu oherwydd cost trafnidiaeth. Mae’r buddsoddiad hwn eisoes wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i gymunedau ledled Cymru, ond yn enwedig mewn ardaloedd gwledig.’