Digwyddiad arall
Datblygiad pobl ifanc yn eu harddegau a sut i ymgysylltu â nhw a’u hymennydd
Dyddiad
12/09/2024
Amser
9:30am - 4:00pm
Pris (aelod)
£98
Pris (ddim yn aelod)
£98
Trefnydd
Plant yng Nghymru
Lleoliad
Ar-lein
Mae’r cwrs hwn yn edrych ar yr arddegau yn nhermau datblygiad corfforol, seicolegol, emosiynol a chymdeithasol. Gall edrych ar y materion sydd dan sylw a ffyrdd o’u deall helpu i ymgysylltu â phobl ifanc a’u cefnogi’n effeithiol.
Nodau:
- dealltwriaeth o gyfnodau datblygiad – deallusol a sosio-emosiynol
- cyfathrebu – sut mae siarad ag arddegwyr
- adeiladu perthnasoedd – meithrin ymddiriedaeth, dysgu cyd-drafod, pennu ffiniau
- deall ffactorau straen – pwysau cyfoedion, rhyw a pherthnasoedd, camddefnyddio sylweddau, bwlio, camdriniaeth a thrawma
- sut mae hybu annibyniaeth a gwydnwch
Pwy ddylai fod yn bresennol?
Mae’r cwrs hwn wedi’i anelu at ymarferwyr sy’n gweithio gydag arddegwyr ac sydd eisiau deall sut mae eu hymennydd yn gweithio a sut mae hynny’n dod i’r amlwg yn eu hymddygiad.