Digwyddiad arall
Cefnogi Pobl Ifanc sydd â Phrofiad o Ofal yng Nghymru
Dyddiad
2 Gorffennaf 2026
Amser
11:00am – 12:00pm
Pris (aelod)
Am ddim
Pris (ddim yn aelod)
Am ddim
Trefnydd
Plant yng Nghymru
Lleoliad
Ar-lein
Gweminar rhad ac am ddim i bobl broffesiynol ac ymarferwyr i gefnogi pobl ifanc sydd â phrofiad o ofal yng Nghymru.
Bydd cyfranogwyr yn dysgu:
- am ddiffiniad y term ‘pobl sydd â phrofiad o ofal’ a deall y gwahanol fathau o drefniadau gofal (er enghtaifft, gofal maeth, gofal preswyl, gofal gan berthnasau)
- sut i adnabod yr heriau allweddol y mae pobl sy’n gadael gofal yn eu hwynebu, gan gynnwys ansefydlogrwydd tai, ansicrwydd ariannol, lles emosiynol, a phontio i addysg neu gyflogaeth
- am y systemau cymorth a throsolwg o Brosiect Paratoi Plant yng Nghymru.