Cysylltwch â ni
Cym | Eng

Digwyddiad arall

Codi ymwybyddiaeth o ddiogelu plant a phobl ifanc

Dyddiad

04/12/2024

Amser

9.30am - 12.30pm

Pris (aelod)

£65

Pris (ddim yn aelod)

£65

Trefnydd

Plant yng Nghymru

Lleoliad

Ar-lein

Mae’r cwrs hyfforddi rhyngweithiol hanner diwrnod hwn wedi’i osod yn benodol yng nghyd-destun Cymru. Bydd yn caniatáu i gyfranogwyr ystyried y materion ar gyfer eu rôl a’u sefydliad.

Trwy gymryd rhan mewn ystod o ymarferion, bydd cyfranogwyr yn ennill dealltwriaeth o elfennau allweddol gweithio’n ddiogel ac yn gyfrifol gyda phlant a phobl ifanc ac yn dysgu sut y gallant ymateb yn effeithiol lle mae ganddynt bryderon.

Nodau:

  • rhoi dealltwriaeth o’r ddeddfwriaeth, y canllawiau a’r polisi sy’n darparu fframwaith ar gyfer diogelu plant a phobl ifanc yng Nghymru
  • ennill ymwybyddiaeth sylfaenol o rolau a chyfrifoldebau gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio ym maes amddiffyn plant
  • myfyrio ar eich rôl eich hun wrth weithio’n ddiogel yn eich sefydliad a chydag eraill
  • dysgu am gadw cofnodion yn effeithiol, rhannu gwybodaeth a chyfrinachedd
  • deall y broses atgyfeirio lle mae gennych bryderon am blentyn.

Pwy ddylai fod yn bresennol?

Mae’r cwrs hyfforddi hwn wedi’i anelu at holl ymarferwyr Grŵp A. Diffinnir grŵp A gan y Safonau hyfforddiant, dysgu a datblygu diogelu cenedlaethol fel ‘mae ymarferwyr grŵp A i gyd yn staff sy’n ymuno â sefydliad neu asiantaeth yn y sector cyhoeddus neu’r sector gwirfoddol yng Nghymru. Mae’r safonau hyfforddi hefyd yn addas ar gyfer y rhai mewn lleoliadau sector preifat, gwirfoddolwyr ac aelodau etholedig awdurdodau lleol.’

Mae’r cwrs byr hwn wedi’i anelu at bobl sy’n newydd i’r gwaith hwn neu sydd angen diweddariad ar eu gwybodaeth a’u sgiliau gan gynnwys deddfwriaeth gyfredol.

Rhagor o wybodaeth

Generic selectors
Exact matches only
Search in title
Search in content
Post Type Selectors