Digwyddiad Chwarae Cymru
Fforwm Gweithwyr Chwarae
Dyddiad
1 - 2 Gorffennaf 2026
Pris (aelod)
£95.00
Pris (ddim yn aelod)
£95.00
Trefnydd
Chwarae Cymru
Lleoliad
Rhaeadr, Powys
Mae’r Fforwm Gweithwyr Chwarae yn ôl ar gyfer 2026!
Mae’r Fforwm Gweithwyr Chwarae yn ddigwyddiad hyfforddiant gwaith chwarae preswyl, deuddydd o hyd dan gynfas sy’n rhoi cyfle i weithwyr chwarae ddysgu oddi wrth ei gilydd a hyfforddwyr gwaith chwarae profiadol.
Prisiau cyfranogwyr
Eleni, rydym yn cynnig pris cyw cynnar i bob cyfranogwr. Archebwch eich lle erbyn 30 Ebrill i fanteisio ar y pris llai.
- Pris cyw cynnar: £95
- Pris o 1 Mai 2026: £130
Disgwylir i’r cyfranogwyr wersylla a bydd angen iddynt ddod â’u hoffer gwersylla eu hunain. Darperir diodydd poeth, ciniawau, brecwast a swper.
Rydym am wneud y Fforwm Gweithwyr Chwarae yn gynhwysol a hygyrch ar gyfer cyfranogwyr sydd am fynychu. Sylwer bod y digwyddiad a’r lleoliad i gyd yn yr awyr agored. Os oes gennych anghenion mynediad penodol yr hoffech eu trafod, mae croeso ichi gysylltu gyda ni.
Darperir llecyn gwersylla fel rhan o’r tâl cyfranogwr, ac mae hyn yn cynnwys bwffe brecwast. Mae hyn yn helpu i gadw cost gyffredinol y digwyddiad yn isel er mwyn i fwy o bobl allu mynychu a’n gobaith yw y bydd yn caniatáu i dimau, yn ogystal ag unigolion, i fynychu. Mae’r profiad awyr agored yn rhan o’r hyn sy’n gwneud y Fforwm Gweithwyr Chwarae yn ddigwyddiad datblygiad proffesiynol unigryw ac felly rydym yn annog cyfranogwyr i wersylla er mwyn elwa’n llwyr o’r digwyddiad hwn.
Pwy ddylai fynychu?
Anelir y digwyddiad at weithwyr chwarae, gweithwyr datblygu chwarae, rheolwyr gwaith chwarae, ymarferwyr ysgolion coedwig, gweithwyr gofal plant a phawb sydd am gynyddu eu sgiliau a’u gwybodaeth am waith chwarae, yn enwedig y tu allan.
Lawrlwytho poster y digwyddiad
Archebu lle
Cwblhewch ac anfonwch y ffurflen i archebu eich lle: