Cym | Eng

Digwyddiad Chwarae Cymru

Chwarae a lles: o ymchwil i ymarfer

Dyddiad

21/11/2024

Amser

9:00am

Pris (aelod)

£55

Pris (ddim yn aelod)

£100

Trefnydd

Chwarae Cymru

Lleoliad

Gerddi Sophia, Caerdydd

Mae cynhadledd genedlaethol Chwarae Cymru’n dychwelyd yr hydref hwn – mae archebion nawr ar agor.

Ymunwch â ni i ddathlu lansio ein cyhoeddiad diweddaraf, Chwarae a lles. Bydd y gynhadledd hon yn gyfle pwysig i ddarganfod mwy am yr adolygiad o ymchwil diweddar i chwarae plant, polisi cymdeithasol ac ymarfer, gyda ffocws ar Gymru. Y canlyniad yw cyhoeddiad arloesol a chyffrous a fydd yn dylanwadu ar sut yr ydym yn cynllunio ac yn darparu ar gyfer chwarae plant.

Mae’r adolygiad llenyddiaeth yn archwilio’r cysylltiadau rhwng digonolrwydd cyfleoedd chwarae a lles plant. Mae’n tynnu’n bennaf ar ymchwil academaidd, ar draws ystod o ddisgyblaethau, ond mae hefyd yn tynnu ar lenyddiaeth broffesiynol, eiriolaeth ac ymarferydd ble y bo’n briodol. Mae’r adolygiad yn canolbwyntio ar rôl chwarae mewn lles plant, patrymau chwarae plant, a chefnogaeth oedolion i chwarae plant.

 Bydd y gynhadledd yn rhoi cyfle i gynadleddwyr:

  • Glywed gan awduron yr adroddiad Chwarae a lles
  • Cymryd rhan mewn trafodaeth fywiog am yr ymchwil a sut y mae’n effeithio ar eich gwaith
  • Cyfrannu at weithdai astudiaethau achos sy’n ymwneud â themâu’r ymchwil, Adolygiad Gweinidogol o Chwarae a digonolrwydd cyfleoedd chwarae
  • Ystyried sut y gall tystiolaeth o’r adolygiad llenyddiaeth ddylanwadu ar eich gwaith gyda phlant.

Nodyn: i gael y gorau o’r gynhadledd hon, rydym ynargymell eich bod yn darllen crynodeb Chwarae a lles cyn mynychu’r digwyddiad.

Pwy ddylai fynychu?

Anelir y gynhadledd at: swyddogion digonolrwydd chwarae, ymarferwyr gofal plant a gwaith chwarae, aelodau etholedig mewn llywodraeth leol, a’r rhai sy’n ymwneud ag iechyd, addysg, teithio llesol, cynllunio tref a chymuned.

Prif siaradwyr

Ymhlith y siaradwyr mae:

  • Dr Wendy Russell
  • Ben Tawil, Ludiology
  • Mike Barclay, Ludiology
  • Rocio Cifuentes, Comisiynydd Plant Cymru

Lawrlwytho poster y gynhadledd

Prisiau cynadleddwyr

Eleni rydym yn gallu cynnig pris cyw cynnar i gefnogwyr yng Nghymru. Archebwch eich lle heddiw i dderbyn y pris gorau:

  • Cefnogwyr yng Nghymru tan 30 Medi: £55
  • Cefnogwyr yng Nghymru o 1 Hydref ymlaen: £75
  • Cynadleddwyr o’r tu allan i Gymru: £100

Archebu lle

Cwblhewch y ffurflen i archebu eich lle:

Please enable JavaScript in your browser to complete this form.
Ydych chi wedi darllen a deall y polisi archebu a chanslo, gan gynnwys yr amodau a thelerau?
Ydych chi'n Gefnogwr Chwarae Cymru yng Nghymru?
Manylion anfoneb

Anfonir yr anfoneb i’r cyfeiriad ebost yr ydych wedi ei gynnwys yn eich archeb.

Nodwch pa iaith yr hoffech ei defnyddio yn y gynhadledd, os gwelwch yn dda
£0.00
 

Generic selectors
Exact matches only
Search in title
Search in content
Post Type Selectors